Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 18 Medi 2019.
Nid wyf yn ceisio ystumio'r sefyllfa. Fe wnaethoch chi gefnogi hynny ac rwy'n dweud bod hynny'n hollol iawn, ond peidiwch â diystyru achos arall am y bernir mai streic ydyw a rhywbeth nad ydych chi'n meddwl ei fod yn addas yn wleidyddol i bobl ifanc ei wneud.
Rwy'n brin o amser, felly yr unig beth yr hoffwn ei ddweud yw: gwrandewch ar y bobl ifanc pan fyddant yn dod â'r materion hynny atom. Dylech eu cymryd o ddifrif, eu clywed, cyfarfod â hwy a pheidio â'u trin yn nawddoglyd.