Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 18 Medi 2019.
Rwy'n digio'n fawr at yr awgrym fy mod yn beirniadu pobl ifanc. Rwy'n siarad â phobl ifanc bob dydd o'r wythnos; mae gennyf bedwar o blant fy hun. Nid wyf yn beirniadu neb. Yn wir, yn fy sylwadau agoriadol gwneuthum y pwynt fod angen inni rymuso pobl ifanc i ymgysylltu â'r broses a chyflwyno eu barn. Ond yn ôl eich cynnig chi, sy'n sôn am streiciau mewn addysg a gadael lleoliad addysg ffurfiol—