Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 18 Medi 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl. Fe ddechreuaf drwy egluro bod rotâu staff yn fater gweithredol ac yn gyfrifoldeb i sefydliadau unigol. Dylent sicrhau bod pob un o'u rotâu yn ystyried cydymffurfiaeth â Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, wedi'u llunio i ddiwallu anghenion staff a'r gwasanaeth, ac yn gosod angen y claf yn ganolog yn y gwaith o reoli'r gweithlu.
Rwy'n disgwyl i holl gyflogwyr y GIG gydweithio'n agos â'r undebau llafur ar ochr y staff ar y newidiadau arfaethedig, i ystyried yr holl sylwadau a phryderon ac ymateb yn briodol iddynt. Mae'r argymhelliad cyfredol sy'n destun ymgynghoriad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ceisio safoni patrymau sifftiau, cyfnodau trosglwyddo a chyfnodau egwyl ar draws pob is-adran, ac nid yw'r ymgynghoriad cyfan wedi dod i ben eto; maent yn dal i ymgysylltu ac ymgynghori ar yr argymhelliad.
Mewn ymateb i gais gan bartneriaid undebau llafur, rwy'n deall bod y cyfnod ymgynghori wedi'i ymestyn er mwyn sicrhau digon o amser i'r holl staff y gallai'r argymhelliad effeithio arnynt ystyried yr wybodaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Deallaf hefyd fod cynrychiolwyr undebau llafur wedi mynegi pryderon am yr effaith bosibl, gan gynnwys y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, y posibilrwydd o gynnydd yng nghostau gofal plant, a chostau teithio, golchi dillad a bwyd. Rwy'n disgwyl i reolwyr y bwrdd iechyd ystyried unrhyw effaith ar gydraddoldeb a'r holl adborth cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Felly, nid yw'r cynnig yn adlewyrchu'r realiti nad yw prosesau ymgynghori lleol wedi'u cwblhau eto—maent yn mynd rhagddynt ac ni wnaed penderfyniad hyd yma.
Mae'r cynnig hefyd yn cyfeirio at ddiogelu cyflogau ac amodau gwaith gweithwyr rheng flaen yn y GIG. Mae'r argymhellion ar gyfer y rotâu yn ymwneud â chynllunio sifftiau ac ni fyddent yn effeithio ar gyflog, telerau ac amodau cytundebol a nodwyd o dan yr 'Agenda ar gyfer Newid' y cytunwyd arni ar y cyd.
Wrth wrthwynebu'r cynnig, rwyf hefyd wedi cynnig gwelliannau i ategu'r gwerth a roddwn ar weithlu'r GIG a threfniadau gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, a'n bod yn parhau i ddisgwyl i holl gyrff y GIG weithio, ymgysylltu ac ymgynghori â'u staff, eu hundebau llafur a chyrff cynrychiadol eraill ar unrhyw newid gweithredol sy'n effeithio ar staff.
Mae'r bartneriaeth gymdeithasol ac ymwneud undebau llafur yn drefniadau arferol yma yng Nghymru. Mae'n ddealladwy fod cymheiriaid undebau llafur yn Lloegr, lle mae'r dull o weithredu yn sylfaenol wahanol, yn eiddigeddus o'n trefniadau yng Nghymru. Rwy'n falch o ddweud bod ansawdd y data wrth gofnodi absenoldebau yn gwella, a bydd hyn yn helpu i nodi a mynd i'r afael â themâu a meysydd penodol i ganolbwyntio arnynt.
Mae gwaith yn mynd rhagddo ledled Cymru, yn dilyn y cytundeb 'Agenda ar gyfer Newid', i leihau absenoldeb oherwydd salwch ym mhob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd. Mae sefydliadau'r GIG yn ymwneud ag ystod o fentrau i gefnogi iechyd a lles corfforol ac emosiynol eu staff. Fel pob un o fy nghyd-Aelodau, rwyf hefyd yn pryderu am straen a materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl sy'n effeithio ar ein staff iechyd a gofal. Rhaid i gyflogwyr ystyried iechyd a lles eu gweithwyr yn llawn. Mewn gwirionedd—mae'r drafodaeth ar sut i leihau absenoldeb oherwydd salwch wedi cael ei datblygu ar y cyd gan yr undebau llafur a chan gyflogwyr, ac fe'i cefnogwyd gan adnoddau ychwanegol gan y Llywodraeth. Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau a gynigiwyd gan Darren Millar. Fel y dywedais yn gynt, mae'r argymhellion hyn, yn gwbl briodol, yn amodol ar ymgysylltu ac ymgynghori â staff, undebau llafur a chyrff cynrychiadol.
Rwyf am ei gwneud yn glir fy mod yn cadw budd gorau ein staff a'r cyhoedd a wasanaethwn mewn cof ym mhob penderfyniad a wnaf. Gwn fod hynny'n rhywbeth y byddai Aelodau eraill yn ei ddweud—eu bod hwythau'n cadw hynny mewn cof wrth wneud cyfraniadau yn y Siambr hon. Ond rwy'n disgwyl i gyflogwyr y GIG fabwysiadu ymagwedd debyg wrth wrando ar ein staff a'u cynrychiolwyr etholedig ar ochr yr undebau llafur a gweithio gyda hwy.
Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu bod cyflogwyr ac undebau llafur yn cytuno ar bob argymhelliad a wneir. Er hynny, yng Nghymru, mae gennym hanes o ddod o hyd i ffordd o ddod i gytundeb ar y ffordd ymlaen. Rwy'n disgwyl i'r dull adeiladol ac aeddfed o weithredu yr ydym wedi'i feithrin, ei annog a'i ymgorffori drwy bartneriaeth gymdeithasol ganfod ffordd ymlaen yn yr achos hwn, ac wrth gwrs, byddaf yn parhau i fod â diddordeb yn y cynnydd ar hynny yn y mater hwn ar ôl i'r ymatebion i'r ymgynghoriad ddod i law. Yna bydd yn rhaid i'r bwrdd iechyd ystyried unrhyw argymhelliad a fydd yn dal i fod ganddynt ar y pwynt hwnnw, neu ei adolygu, ei drafod, a chytuno arno, gobeithio, yn y bartneriaeth yr ydym wedi'i meithrin, ac rwy'n falch o ddweud, wedi'i sicrhau yma yng Nghymru.