Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 18 Medi 2019.
Diolch, Lywydd. Ddoe, daeth ymgynghoriad ar newidiadau i rotâu nyrsio ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i ben. Mae'r argymhelliad, i bob golwg, i safoni a symleiddio cyfnodau egwyl nyrsys a throsglwyddiadau yn ceisio arbed arian i'r bwrdd iechyd mewn gwirionedd, ar adeg, wrth gwrs, pan fo'i gadeirydd yn cyfaddef ei fod yn cael trafferth cyrraedd targedau i leihau ei ddiffyg o £42 miliwn. Nawr, yn y cyd-destun hwn—ymgais daer i arbed arian—y lluniwyd y cynllun. A gallai'r ysfa daer honno esbonio pam y mae'r argymhelliad wedi arwain uwch-reolwyr yn y bwrdd i lunio'r syniad gwallgof hwn i arbed arian. Yn gryno, mae'n ymestyn sifftiau nyrsys hanner awr yn ychwanegol yn ddi-dâl. Byddai'n golygu y bydd disgwyl i nyrs sy'n gweithio sifft 12.5 awr ar hyn o bryd, sy'n cynnwys egwyl o hanner awr yn ddi-dâl, weithio'r un sifft a chael ei thalu am 11.5 awr yn unig.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gydnabod bod llawer o nyrsys yn treulio'u cyfnodau egwyl ar eu wardiau neu eu hunedau ar hyn o bryd, a'u bod ar alwad i bob pwrpas mewn argyfwng. Nawr, ewyllys da staff gweithgar yn unig sydd i gyfrif am hynny, ac mae'r argymhelliad hwn yn ceisio manteisio ar yr ewyllys da hwnnw. Yr hyn y mae'r rheolwyr yn methu ei ddeall yw—[Torri ar draws.] Na, ni wnaf, mae arnaf ofn—mae angen i mi gael hyn—. Gallwch siarad yn y ddadl. Mae'n ddadl fer iawn. Yr hyn y mae rheolwyr yn methu deall yw bod yr argymhelliad yn bygwth tanseilio morâl ac ewyllys da nyrsys yn llwyr. Bydd y newidiadau'n golygu, i bob pwrpas, fod nyrsys amser llawn yn gorfod gweithio sifft ychwanegol y mis i gyflawni'r oriau di-dâl.
Nawr, nid newidiadau bach yw'r rhain—os cânt eu gweithredu bydd yn effeithio ar dros 4,000 o nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd ar draws fy rhanbarth yng ngogledd Cymru. Mae nyrsys yr ydym wedi siarad â hwy'n ddienw yn dweud, os aiff y cynllun yn ei flaen, y byddant yn ystyried lleihau eu horiau, bydd rhai'n ystyried rhoi'r gorau iddi yn llwyr, dywed rhai y byddant yn treulio'u cyfnodau egwyl i ffwrdd o'u huned neu eu ward, a bydd rhai'n cymryd gwyliau blynyddol yn hytrach na gweithio sifftiau ychwanegol.
Mae newidiadau tebyg wedi'u rhoi ar waith mewn ysbytai yn Lloegr, ond mae'n bosibl mai dyma un o'r adegau cyntaf, er ei bod yn bosibl bod Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg—efallai eu bod hwy wedi gwneud rhywbeth tebyg. Ond teimlaf yn gryf fod yn rhaid inni herio'r argymhellion hyn, ac fel cynrychiolydd o ogledd Cymru, mae'n amlwg fod lles ein nyrsys yng ngogledd Cymru yn agos at fy nghalon.
Nawr, yn sail i'r argymhelliad y mae'r angen, yn ôl y gyfraith wrth gwrs, i sicrhau lefelau staffio diogel ar bob ward, gan leihau costau nyrsys asiantaeth ar yr un pryd, drwy sicrhau niferoedd cymwys o staff nyrsio a gweithwyr cymorth gofal iechyd ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae rheoli gwael hefyd yn golygu bod amrywiaeth enfawr o ran cyfnodau egwyl i staff, o ddim egwyl o gwbl i 75 munud o egwyl â thâl. Ni ddylai safoni'r rhain olygu gorfodi baich ychwanegol annheg ar nyrsys.
Mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn destun mesurau arbennig, wrth gwrs, oherwydd amrywiaeth o fethiannau clinigol ers 2015. Mae'n dechrau ar ei bumed flwyddyn o reolaeth uniongyrchol gan y Llywodraeth, ac eto nid yw'n dangos unrhyw arwydd ei fod yn ymdopi â heriau'n ymwneud â'r gweithlu sy'n sail i lawer o'i broblemau. Mae prinder dybryd o feddygon a nyrsys, fel y gwyddom, ac yn ôl y cyfrif diwethaf, roedd 500 o swyddi nyrsio gwag yn y gogledd—un o bob 10 o'r gweithlu. Felly, gallwch ddeall pam y mae'r staff sydd yno eisoes o dan bwysau, a pham y mae'r bwrdd iechyd yn awyddus i dorri ei fil nyrsys asiantaeth enfawr. Nawr, datgelodd ymateb rhyddid gwybodaeth i mi yr wythnos diwethaf fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd yn gwario dros £1 miliwn y mis ar nyrsys asiantaeth yn unig. Yn wir, ar un adeg, roedd yn gwario £3 miliwn y mis ar feddygon locwm a staff asiantaeth. Nawr, mae'r nyrsys hyn yn llenwi bylchau, ond mae cyflogi staff asiantaeth yn costio mwy wrth gwrs, ac nid ydynt yn gallu cyflawni rhai o'r dyletswyddau y mae nyrsys staff yn eu gwneud fel mater o drefn.
Felly, faint fydd yr argymhelliad hwn yn ei arbed? Wel, yn ôl y bwrdd iechyd ei hun, maent yn disgwyl arbed £25,000 y mis oddi ar eu bil nyrsys asiantaeth. Mae hynny oddeutu 2 y cant—2 y cant o'r bil misol. Rwy'n siŵr y bydd y bwrdd iechyd yn dadlau bod yn rhaid i chi gyfri'r ceiniogau pan fyddwch yn wynebu'r fath fynydd o ddyled, ac ni fuaswn yn anghytuno â hynny, ond ofnaf eu bod wedi colli golwg ar sut y mae hyn wedi cael ei dderbyn ar lefel y ward. Nid yw'r bwlch rhwng y bwrdd a'r ward erioed wedi bod yn fwy, o farnu wrth yr ymateb.
Mae nyrsys pryderus wedi cysylltu â ni oherwydd bydd yr argymhelliad yn effeithio'n wael ar y bwrdd iechyd. Bydd colli ewyllys da ymhlith miloedd o nyrsys sydd eisoes yn gweithio o dan bwysau aruthrol yn gwneud pethau'n waeth, nid yn well. Nid dyma'r ffordd i drin staff medrus, profiadol ac arbenigol. Rwyf am i'r bwrdd iechyd ailystyried yr argymhelliad. Mae'n achosi pryder ymhlith staff nad oes angen straen pellach arnynt yn eu bywyd gwaith. Mae morâl y staff eisoes yn isel ac efallai mai dyma fydd ei diwedd hi. Efallai y bydd y bwrdd iechyd yn arbed £25,000 y mis, ond ni allwch roi pris ar ewyllys da dros 4,000 o nyrsys.
Nawr, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog iechyd, y mae ei adran, wrth gwrs, yn goruchwylio Betsi Cadwaladr yn uniongyrchol, yn deall hyn. Gobeithio—. Wel, rwy'n deall bod ei gyd-Aelod, yr AS dros Crewe a Nantwich, Laura Smith, wedi gwrthwynebu newidiadau tebyg a orfodwyd ar nyrsys yn ysbyty Leighton yn ei hetholaeth yn hallt iawn. Felly, os nad yw'n gwrando ar Blaid Cymru, tybed a fyddai'n gwrando ar ei dadl hi.
A yw'n gwrando ar yr undebau, fel Unite, a'r Coleg Nyrsio Brenhinol, sydd ill dau'n gwrthwynebu'r newidiadau hyn yn y modd cryfaf posibl? Buaswn yn ei annog i gamu i mewn a sicrhau y rhoddir y gorau i'r polisi hwn cyn iddo achosi problemau gwirioneddol gyda'r gweithlu, ac yn y pen draw, wrth gwrs, gyda'r GIG ar draws gogledd Cymru.
A wnaiff wrando ar y dros 6,000 o bobl, gyda llawer ohonynt yn nyrsys a'u teuluoedd, sydd wedi llofnodi deisebau i roi'r gorau i'r newid hwn? Mae nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd yn rheng flaen y gwaith o ddarparu gwasanaeth gwych ledled y gogledd. Mae nyrsys yn gweithio'n aruthrol o galed ac nid oes angen mwy o bwysau arnynt gan y rheolwyr, sy'n gallu gadael eu swyddfeydd am 5 p.m, wrth gwrs, doed a ddêl Felly, a yw'r uwch-reolwyr yn meddwl o ddifrif y bydd y newid yn helpu i gadw a recriwtio staff?
Fe orffennaf fy nghyfraniad agoriadol gyda dyfyniad gan nyrs staff a lofnododd ein deiseb ac a adawodd y neges hon ar yr hysbysfwrdd:
Dyma'r hoelen olaf yn yr arch i nyrsys sy'n gweithio i Betsi Cadwaladr. Rydym eisoes yn gweithio ar ward sy'n brin o staff, felly rydym yn lwcus os ydym yn cael egwyl. Bydd hyn yn golygu bod llawer o nyrsys yn symud o'r proffesiwn nyrsio a byddaf yn un ohonynt. Rwyf wrth fy modd yn bod yn nyrs, ond nid wyf yn mynd i beryglu fy iechyd wrth i'r ymddiriedolaeth roi mwy o bwysau arnaf. Mae Betsi Cadwaladr yn dangos eu gwir liwiau yn fy marn i. Maent yn poeni mwy am arian na lles y claf na'r staff. Pe baent yn rhoi arian tuag at staff rheng flaen drwy sicrhau bod wardiau'n cael eu staffio'n ddiogel a pheidio â thalu cwmnïau i gynnig syniadau dwl, efallai y gallent arbed arian yn y pen draw.
Ei geiriau hi oedd y rheini. Nawr, rwy'n annog y Cynulliad i gefnogi cynnig Plaid Cymru ac i gefnogi ein nyrsys y prynhawn yma.