Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 18 Medi 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau hynny'n ffurfiol. Ond rwy'n ofni bod fy nghyd-Aelod ar yr ochr arall i'r Siambr, Llyr Huws Gruffydd, wedi dweud yn eithriadol o huawdl bopeth yr oeddwn am ei ddweud. Oherwydd mae gennym GIG sydd o dan bwysau aruthrol. Mae gennym staff sy'n gwneud mwy nag sy'n ofynnol o ran dyletswydd. Maent yn gweithio oriau hwy ac nid ydynt yn mynd ar drywydd taliadau goramser, na fyddent yn aml iawn yn eu cael beth bynnag. Maent yn aros ac nid ydynt yn cael y cyfnodau egwyl y dylent eu cael, am fod yna bob amser rywun sydd angen ychydig o help, rhywun sydd angen ei godi, rhywun sydd angen eu bwydo, a moddion i'w roi, trosglwyddiad i'w wneud. Nid ydynt yn gofyn am yr arian ychwanegol; maent yn mynd ati i wneud y gwaith. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dweud yn glir iawn pe bai pob un nyrs yn y GIG yng Nghymru yn gweithio'r amser y mae i fod i'w weithio, byddai gennym brinder affwysol o nyrsys ledled Cymru—tua 3,500 i 4,000 o bersonél.
Felly, pan fyddwch o dan bwysau aruthrol o'r fath—fel y dywedoch chi, Llyr—mae cael pobl yn potsian o gwmpas yr ymylon ac yn gwneud y mathau hynny o newidiadau yn gwneud i chi deimlo nad oes neb yn eich gwerthfawrogi. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n mynd yn groes i'r graen yw bod yr adolygiad seneddol yn wirioneddol glir ynglŷn â phwysigrwydd staff a chleifion yn y dyfodol yn y weledigaeth ar gyfer iechyd a'n bod yn mynd i fod yn GIG sy'n canolbwyntio llawer mwy ar bobl.
Oherwydd fe ofynnaf hyn i chi, Aelodau—mae'r GIG, os nad yw'n ddim arall, yn fusnes pobl. Mae'n ymwneud yn llwyr â phobl—y bobl sy'n gleifion, y bobl sy'n gweithio ynddo, sy'n gwneud pobl yn iach, sy'n eu hanfon yn ôl allan i'r byd. Mae'n ymwneud â rhyngweithio rhwng pobl, mae'n ymwneud â chyfathrebu, mae'n ymwneud â medr, mae'n ymwneud ag un person yn helpu person arall neu'n rhan o fywyd person arall am ennyd fer iawn, ac mae'n rhaid i chi deimlo'n dda amdanoch eich hun er mwyn gwneud hynny. Ac rwyf am wneud cymhariaeth gyflym, ac rwy'n cyffesu hyn: ar y dyddiau pan nad wyf yn teimlo'n wych, pan fyddaf wedi blino, pan fyddaf wedi ymlâdd, pan fyddaf wedi cael llond bol, pan fyddaf yn darllen 450 o bapurau pwyllgor mewn cyfnod byr iawn o amser, rwy'n eithaf diamynedd gyda fy ngŵr, rwy'n eithaf diamynedd gyda fy mhlant, rwy'n eithaf, wyddoch chi, oherwydd fy mod yn teimlo o dan bwysau, rwy'n teimlo straen. Dyma sut y mae bodau dynol yn adweithio. Felly, beth ydym yn ei wneud i'r holl staff hyn yn y GIG sy'n gweithio'n ddyfal drosom? Rydym yn eu rhoi o dan fwy byth o bwysau, ond yn disgwyl iddynt fod yn hapus ac yn llawen, i wneud eu gwaith mor dda ag y gallant ei gwneud a chydag angerdd yn eu calon.
Nawr, mae'n ymwneud ag arbed costau, ac mae angen i Betsi Cadwaladr docio peth ar ei gwariant, ond mae llefydd gwell i docio arnynt. A buaswn yn awgrymu bod PricewaterhouseCoopers, sydd wedi'u helpu i wneud yr ymarfer bach hwn, yn dda iawn yn ôl pob tebyg am edrych ar y ffigurau ac yn dda iawn am edrych ar y llyfrau, ond rwy'n eu herio i gerdded drwy'r wardiau hynny ynghanol nos a mynd i weld a gwneud beth y mae'r staff hyn yn ei wneud.
Rydym yn cefnogi eich cynnig yn llwyr. Rydym wedi gwneud rhai gwelliannau, ond ymdrech i geisio'i dacluso a'i wneud yn gryfach oedd hynny, oherwydd un peth yr ydym yn galw amdano, Weinidog, yw i chi yn bersonol ymyrryd yn hyn yn uniongyrchol, i edrych yn hir ac yn fanwl, oherwydd rydych eisoes wedi dweud mewn dadleuon blaenorol heddiw eich bod yn ymateb ac yn gwneud i bethau fod yn gyfarwyddol am nad yw byrddau iechyd yn perfformio. Nid yw Betsi Cadwaladr yn perfformio, ac mae'r peth diweddaraf hwn yn mynd i gynhyrfu cymaint o bobl ac achosi i forâl—. Mae fy amser wedi dod i ben, ond rwyf am wneud un pwynt terfynol Mae absenoldeb salwch staff yn sgil problemau iechyd meddwl yn Betsi Cadwaladr wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, ac yn 2018-19—a ffigurau bach yw'r rhain, ac ni allwn gredu'r peth pan ddarllenais hwy—y dyddiau amser llawn a gollwyd, dros 72,000. Pe baech chi'n cael y dyddiau hynny yn ôl i Betsi Cadwaladr, yn ôl i'r GIG, byddai gennych GIG hollol wahanol. Dim ond gyda staff hapus ac iach sy'n teimlo eu bod yn cael eu gwobrwyo ac sy'n teimlo bod pobl yn ymroddedig iddynt y gallwch wneud hyn.