13. Dadl Fer: Hapus i Redeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 5:52, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn awr yn fwy nag erioed efallai, rydym yn dechrau deall pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i hybu lles meddyliol a chymdeithasol unigolyn. Heddiw, ledled Cymru, bydd bechgyn, merched, dynion a menywod o bob oed, pob cefndir a phob maint wedi manteisio ar y cyfle yn heulwen yr haf bach mihangel hwn yr ydym yn ei fwynhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau elfennol fel cerdded, loncian a rhedeg, ac eto nid yw'n gyfyngedig i'r haf.

Mewn llai na thair wythnos, bydd prifddinas Cymru yn cynnal hanner marathon mwyaf ond un y Deyrnas Unedig, a ddydd Sul, bydd Abertawe yn cynnal ras 10k Bae Abertawe. Ac eleni'n unig, gwelsom Athletau Cymru a'u partneriaid yn cynnal digwyddiadau rhedeg cymunedol a chymdeithasol proffil uchel ledled ein gwlad, yn amrywio o 10k Bae Caerdydd, 10k Casnewydd, hanner marathon Casnewydd a marathon Casnewydd, ras Porthcawl—a gallwn barhau. Cyfranogiad pobl mewn rhedeg torfol sy'n nodweddu'r digwyddiadau hyn, gyda chymaint o'r rhedwyr yn rhedeg nid yn unig drostynt eu hunain ond er mwyn codi arian ar gyfer elusennau ac achosion sy'n agos at galonnau eu teuluoedd. Mae'n rhedeg cymdeithasol a chymdeithasgar. Ac yn aml, byddwch yn gweld tyrfa fawr ar y strydoedd yn dod at ei gilydd i gymeradwyo ac i godi calonnau'r rhedwyr, oherwydd nid yw rhedeg yn hawdd, beth bynnag yw eich safon neu lefel eich ffitrwydd corfforol. Bydd y torfeydd yn annog y rhedwyr, a'r rhedwyr yn cymryd rhan am lawer iawn o resymau, ond hefyd yn rhannol er mwyn ymateb i'r her. Mae yna ddywediad adnabyddus, 'Rydych yn rhedeg eich ras eich hun', ac fel mewn bywyd, cawn ein herio i wella'n hunain i fod y gorau y gallwn fod, ac mae'r un peth yn wir am wledydd. Yng Nghymru, rydym yn herio ein hunain i fod y gorau y gallwn fod.

Un o ddyffrynnoedd balch Gwent yw Islwyn, lle mae gennym ninnau hefyd draddodiad rhedeg cadarn. Mae clybiau rhedeg lleol fel clwb rhedwyr enwog Islwyn yn ganolog i'w bywyd cymunedol ac yn parhau i ymestyn allan at bobl newydd, gyda mentrau newydd i annog cyfranogiad ehangach. Ar hyn o bryd mae rhedwyr Islwyn yn cynnal prosiect o'r enw Future Flyers, sy'n targedu menywod i ddechrau rhedeg am y tro cyntaf. Mae rhedwyr Islwyn yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos bob dydd Mawrth a dydd Iau ym Mhontllan-fraith—rhag ofn fod gan unrhyw un ddiddordeb—ac mae'r sesiynau'n rhad ac am ddim i gyfranogwyr o bob gallu ac mae croeso i bawb. Mae'r ffaith fod dros 50 o fenywod yn cymryd rhan mewn sesiynau bob wythnos yn tystio i ba mor gynhwysol yw'r clwb a'r rhedeg. Ddydd Sul diwethaf, cynhaliodd Clwb Rhedeg Islwyn ras y Scenic 7, ras ffordd saith milltir ar hyd ffordd goedwig Cwmcarn. Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn ddi-baid pa mor bwysig yw ailagor ffordd goedwig Cwmcarn yn llawn, nid yn unig ar gyfer Islwyn, ond ar gyfer Cymru ac yn rhyngwladol. Mae digwyddiadau fel un dydd Sul diwethaf yn dystiolaeth wirioneddol o'r ffordd y gallwn drawsnewid cymunedau'n gyfannol—digwyddiad torfol cyfranogol i'r teulu cyfan a gynhelir yn rhai o'r tirweddau naturiol mwyaf syfrdanol sydd gennym fel gwlad. Dewch i ymweld â ni.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi hybu manteision gweithgarwch corfforol a rhedeg yn gyson i'r genhedlaeth nesaf yng Nghymru, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld y filltir ddyddiol wedi'i lansio'n swyddogol yng Nghymru. Lansiwyd y fenter hon yn swyddogol yn Islwyn, yn Ysgol Gynradd Pontllan-fraith yn y Coed Duon gan y Gweinidog iechyd cyhoeddus ar y pryd, Rebecca Evans, a sylfaenydd y filltir ddyddiol, Elaine Wyllie. Mae'r fenter arloesol hon yn sicrhau bod plant oedran cynradd yn rhedeg, cerdded neu loncian am 15 munud bob dydd yn yr ysgol. Mae'r llawenydd a geir o redeg yn sicrhau ei fod yn gynhwysol, yn syml ac am ddim, heb fod angen unrhyw offer na gwaith paratoi. Yn Islwyn, mae'r rhestr o ysgolion sydd wedi ymrwymo i'r Filltir Ddyddiol yn cynnwys Pantside, Cefn Fforest, Pengam, Trelyn, Fleur de Lis, Bryn, Pontllan-fraith, Libanus, Cwm Gwyddon, Waunfawr, Tŷ Sign, Tŷ Isaf, a mwy i ddilyn. Yn ogystal, mae'n digwydd o fewn ardal Trecelyn yn lleoliadau gwarchod plant Hannah's Bananas, gan helpu'r cynnig cyfannol i ymgeiswyr gofal plant.

Mae potensial gan y filltir ddyddiol i sicrhau nifer o fanteision y tu hwnt i wella ffitrwydd yn unig. Ac fel cerddoriaeth, ac yn debyg i hygyrchedd cerddorol, gall helpu plant i gymryd mwy o ran yn yr awyr agored, adeiladu hunan-barch a hyder yn ogystal â helpu i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm. Nid yw Fitbit a chyfrif camau wedi'u cyfyngu i oedolion yn unig, ac felly, fel cyn-athrawes ac addysgwr, rwy'n falch o weld mwy a mwy o blant yn ymwybodol o'r angen i fod yn egnïol, yn enwedig gyda'r holl demtasiynau y maent yn eu hwynebu i aros yn llonydd o flaen sgriniau a myrdd o ddyfeisiau eraill bellach, a hynny am oriau lawer o bosibl. Felly, o'r filltir ddyddiol, athletau o fewn y cwricwlwm addysg gorfforol, i hyrwyddo ras lwyddiannus parc Penallta bob bore dydd Sadwrn, mae'n dda i fy etholwyr. Mae poblogrwydd syml a syfrdanol rasys parciau ledled y Deyrnas Unedig bellach yn lledu ar draws y byd. Mae'n ddigwyddiad y byddaf yn gweithio arno gyda fy nghymunedau lleol er mwyn cynnal y ras parc gyntaf yn Islwyn.

Mae ychwanegu rasys parciau i rai iau ar ddydd Sul mewn rhai lleoliadau yn dystiolaeth bellach o'r ffordd y mae rhedeg yn rhywbeth i bawb. Mae llawer o rasys parciau yn ymgorffori'r rhaglen Couch to 5K sy'n dilyn cynllun y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, gan annog pobl ar y daith o weithgarwch eisteddog i allu rhedeg 5K erbyn diwedd y rhaglen. Mae gan ein cyngor gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer rhedeg ar gaeau'r ysgol a leolir yn ysgol gynradd Rhiw Syr Dafydd yn Oakdale yn Islwyn, a datblygwyd y gwaith adeiladu ar y cyd ag ymgynghorydd trac a maes, gan gynnwys y corff llywodraethu chwaraeon, Athletau Cymru. Bydd y cyfleusterau chwaraeon newydd yn y cynnig hwn yn rhoi cyfle i 90 o ysgolion a'r gymuned ddefnyddio trac athletau a fydd yn helpu i gefnogi'r cynnydd yn y galw. A bydd yn gyfle pellach yn Islwyn i gefnogi'r ymgyrch i gynyddu cyfranogiad i gynnwys menywod a merched drwy ymyriadau wedi'u targedu, a thrwy weithio mewn partneriaeth gyda thîm datblygu chwaraeon yr awdurdod, Chwaraeon Caerffili, Chwaraeon Anabledd Cymru, a nifer o bartneriaid allweddol eraill.

Ond y diffyg cyfleusterau fydd bob amser yn rhwystr i gyfranogiad elitaidd pellach, ac mewn degawd o gyni, pan fo'r Torïaid wedi ceisio gwasgu Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol i'r eithaf, pa gymorth ariannol pellach y gall, ac y bydd, Llywodraeth Cymru yn ei roi i gynorthwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i sicrhau bod rhedwyr Islwyn yn y dyfodol yn cael y cyfleoedd y maent yn eu haeddu?

Byddai trac rhedeg athletau newydd wedi'i leoli yn Islwyn yn cynnig y cyfleusterau y maent yn awchu amdanynt i ardal ehangach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, hen ardaloedd a dderbyniai arian Amcan, a fy nghymunedau i—cyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, cyfleusterau sy'n addas i wasanaethu'r oddeutu 10 o glybiau rhedeg cymdeithasol yn yr ardal yn ogystal â'r gymuned ehangach o redwyr cymdeithasol. Ac yn wir, buaswn yn croesawu cyfle y tu hwnt i'r ddadl hon i drafod y mater a'r cyfleoedd sydd gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid ardal Islwyn ar gyfer ei phobl gyda'r Dirprwy Weinidog. Ac rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth yn eu gallu i wneud i Islwyn redeg yn hapus, a rhaid inni ei wneud yn nod gyda'n gilydd i wneud Cymru yn wlad hapus ac iachach. Yn y byd rhedeg, ceir mynegiant o anogaeth sy'n dweud, 'Mae hi 'da ti'. Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy'n gwybod ei bod hi 'da chi. Diolch.