Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 18 Medi 2019.
Wel, mae hynny'n ateb annigonol yn anffodus. Mae'n dda iawn i glywed am y gwaith da sy'n digwydd gan y Llywodraeth am yr iaith Gymraeg, ond dylai hynny fod yn y strategaeth. Ac am y ffoaduriaid, dylech chi ailystyried hynny fel mater o frys, byddwn i'n argymell.
Hoffwn droi yn awr at wendidau eraill y strategaeth ryngwladol. Mae'n gymysgedd rhyfedd o orgyffredinoli a gorfanylder ar yr un pryd. Rydych chi'n canolbwyntio ar dri diwydiant i'w hyrwyddo yn rhyngwladol, sef, fel rydych chi wedi sôn amdano fe yn barod, seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r diwydiannau creadigol. Nawr, dwi ddim yn gwadu o gwbl fod y rhain yn ddiwydiannau pwysig i'n heconomi, ond a ddylen ni roi lled-ddargludyddion cyfansawdd wrth ganol ein strategaeth? Oni fyddai'n gwneud mwy o synnwyr i hyrwyddo diwydiant sy'n cyd-fynd â'r nod o gyfrifoldeb rhyngwladol, er enghraifft ynni adnewyddol? Pam nad ydych wedi gosod llwybr uchelgeisiol, wedi ei seilio ar wneud Cymru yn wlad carbon sero erbyn 2040 neu gynt?
Ble mae'r cynllun er mwyn gwneud y mwyaf o'r diaspora Cymraeg, a hyrwyddo cyfraniad diaspora o wledydd eraill sy'n byw yng Nghymru? Ble mae'r cynllun strategol ar gyfer gwneud y mwyaf o swyddfeydd tramor Cymru? Dyw sôn am gyhoeddi cylch gwaith yn y dyfodol, pan mae'r rhain wedi bodoli ers blynyddoedd, ddim yn ddigon da. Ble mae'r weledigaeth ar gyfer hyrwyddo'r gwaith ymchwil ardderchog sy'n cael ei wneud gan ein sector addysg uwch, a'r ymrwymiad i sicrhau bod hyn yn gallu parhau? Ble mae'r targedau sydd yn angenrheidiol er mwyn gallu mesur llwyddiant y strategaeth? Sut allwch chi gyfiawnhau'r ffaith mai dim ond dau gyfarfod y flwyddyn rydych yn bwriadu eu cynnal er mwyn mesur cynnydd? A ble mae'r weledigaeth fawr ar gyfer dyfodol ein cenedl rhyngwladol?
Byddwn i'n argymell eich bod yn dechrau eto, gan adeiladu strategaeth unigryw ac uchelgeisiol, strategaeth all ond Cymru ei chael, o hyrwyddo cenedl groesawgar, werdd, Gymreig, sydd yn barod i lwyddo a chymryd ei phriod le ar lwyfan y byd, yn hytrach na'r ddogfen hon, sy'n darllen, ar adegau, fel ymarferiad PR, mae arna i ofn.