Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 18 Medi 2019.
Diolch yn fawr am y proc defnyddiol iawn hwnnw i'r cof. Gallaf roi trywydd i chi nawr ar gyfer datganiad llafar y gobeithiaf ei wneud i'r Siambr hon ym mis Hydref ar ein strategaeth dwristiaeth. Fy uchelgais yw cynhyrchu blaenoriaethau ar gyfer pob un o brif feysydd fy nghyfrifoldebau fel Dirprwy Weinidog. Rwyf wedi ceisio nodi blaenoriaethau eisoes ym maes treftadaeth, ac rwy'n falch o ddweud wrthych mai twristiaeth yw'r nesaf. Felly, bydd cyhoeddiad tebyg i'r blaenoriaethau a luniwyd gennym ar gyfer treftadaeth ar dwristiaeth, a byddaf yn croesawu ymateb gan yr Aelodau a chan y sector. Efallai eich bod yn cofio inni gynnal uwchgynhadledd dwristiaeth yn Llandrindod y llynedd, ac roedd ymateb y sector i'r cyfarfod hwnnw'n gadarnhaol iawn, ac mae'n ddigon posibl y penderfynwn gynnal digwyddiad tebyg y flwyddyn nesaf.