Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 18 Medi 2019.
Cytunaf â'r dadansoddiad hwnnw. A gaf fi ddweud hefyd ein bod yn credu bod cyfle gwych o hyd ar gyfer yr hyn a elwir yn 'staycation'? Nid yw'n un o fy hoff eiriau, er i mi gael ychydig o wyliau gartref yr haf hwn a'i fwynhau'n fawr, gan gynnwys llawer o amser—treuliais beth ohono yn Sir Fynwy—ond llawer o amser ar y gororau yn edrych ar sut y gallwn weithio'n agosach ar hyd y cyswllt gwych hwnnw rhwng gogledd a de Cymru ar y ffin ddwyreiniol a elwir yn Glawdd Offa. Ac rydym yn gobeithio, yn y dyfodol, y byddwn yn pwysleisio bod lle eto i fwy o ymwelwyr ddod, o'r cytrefi a'r rheini sy'n glanio ym Maes Awyr Manceinion a'r rheini sydd wedi dod drwy Heathrow. Ond rwy'n derbyn y pwynt fod angen i ni roi pwyslais ar farchnata rhyngwladol. Rydym wedi nodi rhai gwledydd ar dir mawr Ewrop, a byddwn yn mynd ar drywydd y strategaeth hon er mwyn sicrhau bod y bobl hynny'n ymwybodol fod y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn dal i fod ar agor, beth bynnag a allai ddigwydd i ffiniau'r Deyrnas Unedig.