Y Prawf Gyrru Theori yn Gymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:05, 18 Medi 2019

Wel, dwi'n falch eich bod chi'n gallu gwneud hynny. Wrth gwrs, beth sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth a'n bod ni'n gweld cynnydd yn y nifer o bobl sy'n gwneud hynny achos, ar hyn o bryd, dim ond 58 o bobl gwnaeth y prawf theori, sef 0.07 y cant. Ac, wrth gwrs, mae pobl yn deall pam mae hynny'n digwydd, ond gobeithiaf nawr y gwelwn ni gynnydd yn hynny o beth. Y cam nesaf, wrth gwrs, yw i gael yr hyn y mae pobl ifanc yn ei ddefnyddio i fynd trwy'r test yna, sef cael app yn Gymraeg. Felly, efallai y byddai'n syniad i'r comisiynydd weld os byddai'n gallu rhoi pwysau ymlaen i gael app yn Gymraeg, achos dyna'r ffordd y mae pobl ifanc yn dysgu o ran pasio'r prawf theori yma.