Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 18 Medi 2019.
Dwi'n siŵr y byddwch chi yn cytuno, yn unol ag ysbryd strategaeth miliwn o siaradwyr, fod angen symud i ffwrdd o'r drefn hen ffasiwn a simplistaidd a oedd yn nodi gofynion ieithyddol swyddi fel swyddi lle mae'r Gymraeg yn hanfodol neu'n ddymunol, gan symud i system fwy pwrpasol sy'n nodi lefel y sgiliau ieithyddol sydd eu hangen o un i bump, ac yn gwneud cwrteisi sylfaenol yn ofynnol ar gyfer pob swydd. Mae Comisiwn y Cynulliad wedi profi cryn lwyddiant yn barod yn gwneud hyn, ond mae'n rhaid imi ddweud bod Llywodraeth Cymru yn llusgo ei thraed, er i weithgor o uwch-swyddogion argymell ym mis Mawrth 2017 y dylai Llywodraeth Cymru symud i'r un cyfeiriad. Fe wnaeth y gweithgor yma hefyd argymell y dylai'r Llywodraeth fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog a gweithio tuag at fabwysiadu'r Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd swyddogol yn weinyddol erbyn 2036. Ond wrth gadarnhau eich bod chi fel llywodraeth yn gweithredu o'r diwedd, yn ystod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu cyn yr haf, dwi'n sylwi mai erbyn 2050 y byddwch chi'n anelu, yn hytrach na 2036 fel oedd yn cael ei argymell yn wreiddiol. A fedrwch chi egluro pam? Diolch.