Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 18 Medi 2019.
Diolch am y cwestiwn. Fel y dywedaf, rydym wedi bod mewn trafodaethau agos gyda'r cwmni a chyda'r undebau llafur. Siaradodd fy nghyd-Aelod, Ken Skates, â'r cwmni ar unwaith pan gyhoeddwyd y newyddion ac ers hynny mae swyddogion wedi bod yn y gwaith yn lleol i gyfarfod â'r tîm yno. Rydym wedi cael sicrwydd y bydd y gweithlu presennol yn cael ei adleoli'n llawn, yn ôl yr hyn a ddeallwn, o fewn Tata—ac na fydd yr un gweithiwr sydd eisiau parhau i weithio yn cael ei adael heb gyfle—sy'n rhywfaint o gysur, er, wrth gwrs, mae'n destun gofid mawr fod y cyfleuster wedi'i golli i Gasnewydd ac i'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Yn amlwg, penderfyniad i Tata yw hwn. Rydym wedi rhoi swm sylweddol o arian i gefnogi Tata. Oni bai am ymyrraeth Llywodraeth Cymru, ni fyddai Tata yn cynhyrchu dur yn y DU o gwbl mwyach, yn sicr pe bai'r mater wedi cael ei adael i Lywodraeth y DU, a gynigiodd lawer o eiriau ond fawr o weithredoedd ar adeg yr argyfwng dur yn ôl yn 2016. Felly, rwy'n credu bod gennym hanes cadarn o ymyrryd i wneud yn siŵr fod cynhyrchiant dur yn aros yng Nghymru. Wrth gwrs, mae safle Orb wedi bod ar werth ers Mai 2018. Mae'r cwmni'n dweud wrthym eu bod wedi bod yn rhedeg ar golled ac nid ydynt wedi llwyddo i ddod o hyd i ffordd ymarferol ymlaen ar gyfer y gwaith. Nid yw'n gywir dweud bod y dur a wneir yn Orb yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cerbydau trydan, fel y mae rhai cyfryngau wedi dweud. Cynhyrchir y math hwnnw o ddur gan ffatri Tata yn eu gwaith yn Sweden, ond nid yw'n cael ei gynhyrchu yn Orb, ac er mwyn paratoi'r ffatri i gynhyrchu'r dur hwnnw, byddai angen buddsoddiad sylweddol, ac nid oedd Tata yn credu bod modd cyfiawnhau hynny, o ystyried cyflwr y farchnad, o ystyried yr ansicrwydd o ran amodau masnachu, ac o ystyried, hefyd, yr ansicrwydd yn y farchnad mewn perthynas â cherbydau trydan—efallai nad yw'r galw yno ar hyn o bryd ac efallai na fydd yno am gryn dipyn o amser. Felly, penderfyniad i Tata yw hwn yn y pen draw. Ni allant hwy, a hwythau'n gwmni sy'n gwneud elw, ddod o hyd i ffordd o wneud elw o fuddsoddiad pellach yn y gwaith hwn. Rydym yn gweithio gyda hwy i geisio sicrhau bod gan y gweithlu presennol ddyfodol mor ffyniannus â phosibl, ond rydym yn parhau i weithio gyda John Griffiths, fel yr Aelod Cynulliad, y cyngor lleol a'r undebau llafur, i weld a oes ffordd arall ar gael o sicrhau bod rhywfaint o weithgynhyrchu'n parhau i ddigwydd ar y safle. Mae rôl i Lywodraeth y DU yn y fan hon i gamu i mewn ac edrych yn strategol ar y sefyllfa. Rydym wedi bod yn galw arnynt i gyflwyno cytundeb sector i'r sector dur. Mae'r undebau llafur ac UK Steel wedi gwneud galwadau tebyg, ac nid ydynt wedi gwneud eu rhan. Felly, o ran rhagolygon mwy hirdymor y diwydiant yn y DU, mae angen i Lywodraeth y DU wneud llawer mwy i sicrhau bod ganddo ddyfodol hyfyw.