Part of the debate – Senedd Cymru ar 18 Medi 2019.
Cynnig NDM7136 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:
1. Yn sefydlu Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw archwilio argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
3. Yn cytuno y caiff y Pwyllgor ei ddiddymu yn dilyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ei adroddiad terfynol.