Cwestiynau i Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Part of QNR – Senedd Cymru ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

Mae Llywodraeth Cymru yn falch o hybu Cymru fel gwlad ddwyieithog, ac rydym yn defnyddio Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig fel platfform ar gyfer rhoi llwyfan newydd i’r Gymraeg yn rhyngwladol. Mae hyn yn elfen bwysig o’n strategaeth ryngwladol ddrafft, sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.