Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 24 Medi 2019.
Llywydd, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gefnogi swyddi a datblygiad economaidd ledled Cymru, gan gynnwys yn Ogwr, drwy ein cynllun gweithredu economaidd. Rhwng 2011 a 2019, gostyngodd y gyfradd diweithdra yn Ogwr gan 52 y cant, ac roedd hynny'n fwy na'r gostyngiad yng ngweddill Cymru a'r gostyngiad ledled y Deyrnas Unedig.