Swyddi a Datblygu Economaidd yn Ogwr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 24 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:06, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, bydd y newyddion y bydd Ineos yn cynhyrchu prosiect Grenadier yn y rhanbarth yn rhyddhad i'w groesawu i'm hetholwyr yn Ogwr a rhanbarth Gorllewin De Cymru yn ehangach. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni arallgyfeirio a diogelu ein marchnad swyddi ar gyfer y dyfodol os ydym ni'n mynd i newid ffawd economaidd Ogwr a'r rhanbarth ehangach. Prif Weinidog, sut y bydd eich Llywodraeth yn arfogi gweithlu'r presennol a'r dyfodol â'r sgiliau angenrheidiol i gystadlu mewn diwydiant 4.0? Diolch.