Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 24 Medi 2019.
Hoffwn gydnabod gwaith ein dwy Lywodraeth mewn dod ag Ineos i gyrion fy rhanbarth i, ond er budd y rhanbarth cyfan a thu hwnt. Mae'r datblygiad economaidd y cyfeiriodd Huw Irranca-Davies ato, wrth gwrs, angen gweithlu sydd wedi ei baratoi'n dda sydd wedi cael y gorau o'u profiad yn yr ysgol a'r coleg. Tybed ai un o'r risgiau mwyaf i'r datblygiad economaidd parhaus hwnnw yr oedd yn sôn amdano, gan gynnwys Ogwr, fydd cyflogwyr traws-sector yn colli ffydd yng nghadernid ac atebolrwydd y system addysg. A ydych chi'n rhannu safbwyntiau Jeremy Corbyn bod arolygiaeth ysgolion annibynnol yn ddiangen?