Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 24 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:14, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei fod yn bolisi rhagorol, Llywydd. Roeddwn i'n falch iawn o allu ei drafod gyda John McDonnell yn gynharach yr wythnos hon. Bydd gweithwyr yng Nghymru yn croesawu'r uchelgais hwnnw. Hoffent fod yn yr un sefyllfa â'u cymheiriaid mewn rhannau eraill o Ewrop a thrwy'r camau y byddwn ni'n eu cymryd mewn Llywodraeth i wella cynhyrchiant, i ail-gydbwyso’r economi o blaid pobl sy'n gweithio, yna mae hwnnw'n uchelgais yr ydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn sicr yn ei gefnogi.