Ysgolion Rhydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 24 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:08, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i system addysg gynhwysfawr sy'n sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u cefndir, yn cael y cyfle i wireddu eu potensial. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod ysgolion rhydd wedi codi safonau yn Lloegr, ac mae Ymddiriedolaeth Sutton wedi canfod bod y polisi wedi methu â chyflawni ei ddiben.