Contractau Athrawon Cyflenwi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 24 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:51, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod. Dyfarnwyd fframwaith newydd ar gyfer athrawon cyflenwi gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar 1 Awst a daeth yn weithredol ar 1 Medi. Ymhlith nodweddion eraill, mae'n sicrhau bod athrawon cyflenwi yn cael eu cefnogi'n briodol a bod cyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol ar gael iddyn nhw.