Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 24 Medi 2019.
Diolchaf i John Griffiths am hynna. Mae un person sy'n cysgu ar y stryd yn un person yn ormod. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp gweithredu, dan arweiniad prif weithredwr Crisis, i nodi cyfres o gamau i'w cymryd ar unwaith y gaeaf hwn i leihau cysgu ar y stryd, a disgwylir adroddiad y grŵp hwnnw ddechrau mis Hydref.