Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 24 Medi 2019.
Diolch, Russell George, am godi mater y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol y prynhawn yma. Gwn fod y Gweinidog Llywodraeth Leol yn awyddus iawn i glywed cynifer o leisiau ag y bo modd, a chael cymaint o ymgysylltu â phosibl ar y mater hwn.
Drafft yw'r fframwaith ar hyn o bryd—ymgynghorir arno tan 20 Tachwedd—ond mae'r Gweinidog wedi nodi y byddai'n fodlon cyfarfod ag Aelodau Cynulliad unigol os oes ganddynt ddiddordeb penodol yn hyn, neu er mwyn hwyluso cyfle pellach i friffio gyda swyddogion a'r cyfle i gael trafodaethau yno.