4. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Rheilffordd i Gymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 24 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:05, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Ers i'r Cynulliad bleidleisio o fwyafrif llethol i gefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi cyflwyno ein hymateb terfynol i adolygiad Llywodraeth y DU. Roedd hyn yn egluro sut y byddem ni, gyda'r pwerau a'r cyfrifoldebau newydd hyn, yn datblygu ein rheilffyrdd yng Nghymru i ddiwallu ein hanghenion a'n hamcanion ein hunain, ac yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau wedi caniatáu i Lywodraeth Cymru, drwy Trafnidiaeth Cymru, ddatblygu dull arloesol o weithredu a fydd yn sicrhau newidiadau sylweddol i deithwyr ledled ardal Cymru a'r Gororau. Drwy ddatganoli, fe wnaethom ni greu sefydliad a oedd yn goruchwylio proses gaffael a oedd yn rhoi ein hamcanion ein hunain yn ganolog iddi, yn datblygu sgiliau ac arbenigedd yng Nghymru, ac yn darparu model i sicrhau'r manteision ehangach mwyaf posib. Yn syml iawn, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib pe bai Lywodraeth y DU wrth y llyw.

Mae'r broses o drosglwyddo a thrawsnewid llinellau craidd y Cymoedd i Lywodraeth Cymru yn dangos sut y gall datganoli grym a gwasanaethau ddatblygu atebion pwrpasol arloesol i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig.

Mae'r gallu i neilltuo amser ac ymdrechu'n benodol i gyflawni canlyniadau sy'n diwallu anghenion lleol ac amcanion ehangach wedi arwain at fanteision ehangach o ran denu cyflogaeth, datblygu arbenigedd lleol, sicrhau manteision cymunedol, a hyrwyddo ein diwylliant ac iaith. Er enghraifft, bydd 22 o lysgenhadon Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda chymunedau i gael gwared ar yr agweddau gwirioneddol a thybiedig hynny sy'n rhwystro pobl rhag defnyddio trafnidiaeth, i annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ac i droi gorsafoedd trenau yn ganolfannau cymunedol bywiog.

Ond mae angen inni fynd ymhellach, i ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb a phwerau i weddnewid y rheilffordd ledled Cymru, i ddarparu seilwaith a gwasanaethau sy'n diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol, ac i wella hygyrchedd ac atebolrwydd i gymunedau lleol, er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw'r rheilffordd o safon uchel y maen nhw'n ei haeddu. Yn amlwg, dim ond drwy setliadau datganoli lle mae prosesau gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar flaenoriaethau cymunedol, rhanbarthol a chenedlaethol y gellir diwallu anghenion lleol amrywiol.

Rydym ni'n cydnabod y gallai hi fod yn fuddiol fod rhai swyddogaethau, fel safonau diogelwch, amserlenni trawsffiniol a'r gallu i gludo nwyddau ar y rheilffyrdd, yn parhau i gael eu rheoli'n ganolog ar lefel Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r system hon gydnabod amrywiaeth setliad datganoli yn y DU a bod yn seiliedig ar lywodraethu, tryloywder a chynrychiolaeth briodol o du'r Llywodraethau cenedlaethol ac awdurdodau sydd â phwerau datganoledig.

Rydym ni eisoes mewn sefyllfa gref i ymateb i'r heriau hyn. Yn Nhrafnidiaeth Cymru, mae gennym ni eisoes y strwythurau, yr arbenigedd a'r prosesau ar waith i ymgymryd â'r cyfrifoldebau a'r pwerau newydd hyn. Cafodd materion trawsffiniol eu datrys ar y cyd ac mewn ffordd gynhwysfawr gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU pan drosglwyddwyd cyfrifoldeb am fasnachfraint Cymru a'r Gororau. A heddiw cyhoeddwn ein gweledigaeth ar gyfer ein rheilffyrdd sy'n cyd-fynd â'n hamcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach, ein blaenoriaethau trafnidiaeth, a'n hymrwymiad i genedlaethau'r dyfodol.

Mae gennym ni batrymlun felly ar gyfer cyflawni'r elfennau sy'n weddill o ddatganoli, mae gennym ni gefnogaeth drawsbleidiol fel na welwyd o'r blaen, ac mae gennym ni weledigaeth uchelgeisiol a chyraeddadwy a fydd yn gwrthdroi'r degawdau o danfuddsoddi yn ein rheilffordd. Rydym ni'n agosáu at gyfnod tyngedfennol o ran esblygiad y rheilffyrdd ym Mhrydain Fawr, ac yn enwedig y cyfle i ddatblygu rhwydwaith sy'n diwallu'n well anghenion y bobl yng Nghymru sy'n ei ddefnyddio, a'r cymunedau sy'n dibynnu arno.

Rwyf hefyd heddiw yn amlinellu egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol a fydd yn cynnig newid sylweddol o ran amlder, integreiddiad ac amserau teithiau. Dim ond gyda'r setliad datganoli a chyllido priodol y gellir cyflawni'r rhain drwy raglen a ddatblygwyd yng Nghymru.

Nawr, rwy'n croesawu'r trafod cadarnhaol a fu rhwng Llywodraeth Cymru a Keith Williams a'i dîm, sydd wedi dangos diddordeb mawr o ran sut yr aethom ni ati yng Nghymru i gaffael y fasnachfraint, integreiddio'r traciau a'r trenau, a'n hymagwedd tuag at yr heriau sy'n ein hwynebu o dan y setliad datganoli presennol. Mae gennyf bob rheswm i gredu bod ein hachos wedi cael gwrandawiad, ac y caiff rhagor o ddatganoli i Lywodraeth Cymru ei argymell. Rwyf bellach yn disgwyl i Lywodraeth y DU ystyried ein gofynion, bodloni ein disgwyliadau, a phennu trefn, amserlen a rhaglen glir ar gyfer datganoli ein rheilffyrdd yn llawn. Disgwyliaf i Lywodraeth y DU gyflawni ei hymrwymiad i gyhoeddi Papur Gwyn yr hydref hwn, ac rydym ni'n barod i weithio gyda nhw i'w weithredu.

Mae ein rheilffordd yn hanfodol i rwydwaith trafnidiaeth effeithiol ac effeithlon a dylai fod yn un o'n hasedau mwyaf gwerthfawr yn gymdeithasol ac yn economaidd. Mae ganddi'r potensial i wneud cyfraniad sylweddol yng Nghymru at fywydau pobl, ein cymunedau, yr amgylchedd a'n heconomi. Bydd ei datblygu a'i hehangu yn barhaus yn cyfrannu at ein huchelgais i ddatblygu economi gryfach, fwy cynhwysol a thecach, ac i sicrhau ffyniant i bawb drwy gysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, gwasanaethau a marchnadoedd.