Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 24 Medi 2019.
O gofio hynny, pa drafodaethau y mae'n eu cael â Trafnidiaeth Cymru o ran y rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd, oherwydd rydym ni wedi gweld rhai diffygion gyda'r cynnydd yn y misoedd diwethaf? Mae cwynion am seddau, yn enwedig, wedi cynyddu, ac mae hynny'n siomedig o gofio'r gwaith ychwanegol y mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i wneud i wella'r sefyllfa o ran seddi. Pa drafodaethau y mae wedi eu cael ynglŷn â hynny? Hefyd, a all gadarnhau, er gwaethaf y ddadl heddiw, y bydd toiledau ar y rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd yn y system newydd?