Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 24 Medi 2019.
A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gyfraniad, ei gwestiynau a'r sylwadau pwysig a wnaeth? Os caf i ymdrin â'r mater o fuddsoddi a'r model a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU drwy Lyfr Gwyrdd y Trysorlys, sef, yn y bôn, cyfrifiad sy'n seiliedig ar y gymhareb budd-cost a fydd wastad yn arwain at fuddsoddi yn yr ardaloedd hynny sydd eisoes yn gefnog a lle mae niferoedd mawr o bobl gyfoethog, oherwydd fe allwch chi wastad gyfrifo adenillion gwell os gallwch ddarparu ar gyfer y cymunedau hynny. Ac o ganlyniad, nid yw'n syndod bod pobl mewn cymunedau mwy difreintiedig, cymunedau sydd eisoes yn wynebu heriau difrifol, wedi teimlo eu bod wedi'u hesgeuluso yn y degawdau diwethaf. Fy marn i yw bod angen diwygio Llyfr Gwyrdd y Trysorlys, y gyfres honno o reolau sy'n penderfynu sut y caiff arian ei fuddsoddi gan Lywodraeth y DU, ac mae'n rhywbeth y byddwn yn ei groesawu'n fawr iawn. Mae'n rhywbeth sydd yn nwylo'r Gweinidogion presennol, mae'n rhywbeth a allai fod yn nwylo Llywodraeth yn y dyfodol, ond rwy'n credu bod angen gwneud hynny er mwyn ail-gydbwyso economi'r DU.
Mae Alun Davies hefyd yn gwneud y sylw pwysig am swyddogaeth trenau trydan o ran gwella amseroedd teithiau. Mae trenau trydan yn cyflymu'n gynt ac felly gallant arwain at lai o amser aros mewn gorsafoedd, ond gallant hefyd arwain at amseroedd teithio byrrach rhwng gorsafoedd. Byddwn yn defnyddio trenau tri-dull a deuddull ar rwydwaith masnachfraint Cymru a'r Gororau. Efallai y byddwn yn defnyddio trenau hydrogen hefyd yn y dyfodol, a'm gobaith yw, wrth i ni ddarparu'r ganolfan ragoriaeth rheilffyrdd byd-eang yn y de, y byddwn yn gweld trenau hydrogen yn cael eu profi i'w cyflwyno'n dorfol yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym ni, yn wir, yn gweithio i ddarparu pedwar trên yr awr ar linell Cwm Ebwy erbyn 2024, ond fy ngobaith yw, os oes modd o gwbl y gallwn ni wneud hynny ynghynt, y gwnawn ni hynny ynghynt. Wrth gwrs, pe baem ni'n gallu cael y swm o arian y credwn y dylem ni fod yn gymwys i'w gael ar gyfer buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, byddem yn gweld gorsafoedd ychwanegol, gan gynnwys o bosib yn Abertyleri. Ond, ni fyddwn yn dymuno mabwysiadu'r un fformiwla ag y mae Llywodraeth y DU yn ei mabwysiadu. Rwyf eisiau mabwysiadu dull sy'n arwain at ddosbarthu cyfoeth yn decach, a chyfle i greu cyfoeth a ddosberthir yn decach ledled Cymru.
O ran y ffaith nad yw llinell Glynebwy wedi ei dynodi'n rheilffordd graidd i'r Cymoedd, rwy'n credu nad yw'n gwneud unrhyw synnwyr i neb nad yw'n rhan o'r ased diffiniedig hwnnw yn y Cymoedd. Y rheswm, wrth gwrs, yw bod yn rhaid i wasanaethau redeg ar brif reilffordd de Cymru, nad yw wedi'i datganoli. Ond, mae peidio â chategoreiddio llinell Glynebwy fel rheilffordd graidd i'r Cymoedd, mae arnaf ofn, weithiau, yn rhoi'r argraff mai llinell gwasanaeth eilaidd ydyw. Nid yw hynny'n wir. Mae'n gwbl hanfodol i'n gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig ac mae'n bendant yn fwriad gennym i ddarparu gwasanaethau'r metro ar linell Glynebwy, ac, wrth wneud hynny, rwy'n credu, ei hailddiffinio yn rhan o ardal graidd llinellau'r Cymoedd, hyd yn oed os nad oes gennym ni gyfrifoldeb am yr elfen lawn o'r llinell y mae trenau'n ei defnyddio ar hyn o bryd.
O ran amserlen adolygiad Williams, nid Llywodraeth Cymru sydd wedi gosod hon. Ychydig iawn o ddylanwad sydd gennym ni o ran pryd fydd Keith Williams yn cyflwyno adroddiad, a sut a phryd y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb, ond byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau am unrhyw gynnydd ac unrhyw ddatblygiadau. Os yw'n bosib, byddaf yn gwneud hynny cyn i Keith Williams neu Lywodraeth y DU wneud unrhyw gyhoeddiadau.
Llywydd, roeddwn yn bwriadu dweud mewn ymateb i'r cyfrannwr cyntaf y bydd swyddogion Trafnidiaeth Cymru yma yfory, rhwng 11.00 y bore a 2.00 y pnawn i ateb unrhyw gwestiynau ynghylch gwasanaethau cyfredol.