Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 24 Medi 2019.
Diolch, Llywydd. Eleni yw ugeinfed pen-blwydd datganoli yng Nghymru ac mae wedi bod yn gyfle i ystyried y gwahaniaeth y mae datganoli wedi'i wneud. Mae'n briodol i ni ymfalchïo ein bod, yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, wedi dod yn arweinydd byd-eang o ran ailgylchu. Yn 2017-18, fe wnaethom ni ailgylchu 62.7 y cant o wastraff trefol, ac rydym ni'n drydydd yn y byd o ran ailgylchu gwastraff cartrefi. Mae hon yn gamp anhygoel, ac ni fyddem ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw heb waith caled ac ymroddiad dinasyddion a chymunedau ar hyd a lled y wlad. Ond nid mater o gyrraedd cyfraddau ailgylchu yn unig ydyw. Dyma'r peth iawn i'w wneud dros ein hamgylchedd, dros ein cymunedau, a dros ein heconomi. Rydym ni wedi dod yn bell, ond nid ydym yn hunanfodlon ac rwyf eisiau achub ar gyfle wythnos ailgylchu i nodi rhai o'r camau nesaf i adeiladu ar record ailgylchu Cymru.
Mae ein huchelgais ar gyfer Cymru ddiwastraff yn gryfach nag erioed. Mae ailgylchu a chynyddu effeithlonrwydd adnoddau yn ganolog i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'n hymateb i argyfwng yr hinsawdd. Mae hefyd yn allweddol i ddatgloi manteision economi carbon isel. Rwyf i'n falch o gael bwrw ymlaen â gwaith ar ailgylchu busnesau yr wythnos hon wrth gyhoeddi ein hymgynghoriad ar y rheoliadau arfaethedig newydd o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Bydd y Rheoliadau'n golygu bod yn rhaid i fusnesau wahanu deunyddiau allweddol er mwyn eu casglu a'u hanfon i gael eu hailgylchu, yn yr un modd ag yr ydym ni wedi bod yn ei wneud gartref ers blynyddoedd. Mae'r deunyddiau arfaethedig yn cynnwys plastig, metel, papur, gwydr a bwyd. Hefyd, mae'r ymgynghoriad yn cynnig gwahardd busnesau rhag gwaredu gwastraff i garthffosydd. Rwyf i wedi dweud o'r blaen ac fe'i dywedaf eto: mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i weithredu, o'r Llywodraeth i lawr gwlad a phopeth yn y canol. Mae'n ymwneud â phob un ohonom ni yn chwarae ein rhan, nid yn unig er budd yr amgylchedd, ond yr economi hefyd.
Mae llawer o fusnesau eisoes yn gwneud eu rhan o ran rheoli gwastraff yn y modd hwn. Mae busnesau yn fwy nag unrhyw sector arall eisoes yn gwybod bod gwastraff, yn hytrach na bod yn faich, yn adnodd allweddol sy'n gallu creu incwm a dod â chyfleoedd masnachol yn ei sgil. Gall wneud cadwyni cyflenwi'n gryfach a drwy sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n hwy, gefnogi economi fwy cylchol lle mae mwy o werth ychwanegol yn cael ei gadw yma yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi cyfle mawr i fusnesau ac awdurdodau lleol o ran gwerth y deunydd a gesglir a'r arbedion y gellir eu gwneud.
Rydym ni wedi gwneud llawer o gynnydd o ran deunyddiau sy'n haws i'w hailgylchu, felly mae angen i ni fynd ati nawr i gasglu gwastraff sy'n anoddach i'w ailgylchu ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod yn datblygu ein partneriaeth lwyddiannus ag awdurdodau lleol i sefydlu cyfleusterau newydd i ailgylchu cynhyrchion hylendid amsugnol megis clytiau.
Rwyf i wedi cwrdd â llawer o bobl a chymunedau ledled y wlad ac rwyf wedi cael fy nghyffwrdd gan yr ymrwymiad, angerdd a brwdfrydedd ynghylch ailgylchu a mynd i'r afael â gwastraff. Nid oes unman gwell nag ysgolion am hyn, lle yr wyf wedi clywed enghreifftiau o bobl ifanc yn gweithredu o Ferndale i'r Rhyl. Mae menter ysgolion diwastraff sy'n cael ei threialu yn Sir Benfro a Chaerdydd yn dod â'r trydydd sector, awdurdodau lleol a Cadwch Gymru'n Daclus ynghyd. Mae'r fenter yn datblygu mentrau ailgylchu ymarferol mewn ysgolion, gan helpu i addysgu plant yn unol ag argymhellion adroddiad Donaldson.
Ond mae rhagor i'w wneud o hyd i godi ymwybyddiaeth ac argyhoeddi pobl i ailgylchu mwy. Gwyddom ni fod mwy na hanner y deunydd sy'n parhau i fod yn rhan o wastraff gweddilliol yn hawdd i'w ailgylchu, a byddai cael hynny allan o finiau du ac i mewn i ailgylchu yn golygu bod Cymru'n cyrraedd cyfradd ailgylchu o fwy na 80 y cant. Byddai hyn nid yn unig yn lleihau cost gwasanaethau rheoli gwastraff, ond byddai hefyd o fudd sylweddol o ran carbon. I fynd i'r afael â hyn, byddaf i'n cyflwyno ymgyrch genedlaethol ar ailgylchu i gefnogi ymgyrchoedd lleol a rhanbarthol.
Rwy'n cydnabod bod pryderon wedi'u mynegi'n ddiweddar ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd i'n gwastraff gweddilliol a'n deunyddiau hailgylchu ar ôl eu casglu. Yng Nghymru, rydym ni eisoes wedi cael ein cydnabod am lefelau tryloywder uchel, gyda gwefan Fy Ailgylchu Cymru yn caniatáu i bobl weld yr hyn sy'n digwydd i'n gwastraff—95 y cant ohono nad yw'n cael ei allforio. Mae buddsoddi mewn seilwaith ychwanegol yn allweddol i symud i beidio ag allforio 100 y cant o'r deunydd.
Fel cenedl gyfrifol, mae'n hanfodol ein bod yn gwaredu'r gwastraff na ellir ei ailgylchu'n gywir. Am y rheswm hwn, rydym ni wedi buddsoddi yn y seilwaith i echdynnu trydan a gwres o'r deunydd hwn a'i waredu'n ddiogel i'r safonau amgylcheddol uchaf. Mae hyn yn sicrhau y gallwn ni dynnu'r budd mwyaf posibl o'r gwastraff hwn a'i atal rhag mynd yn broblem mewn man arall.
Fodd bynnag, mae llosgi gwastraff ar gyfer gwres a phŵer yn gam trosiannol. Yr ateb yn y tymor hir yw symud oddi wrth ddeunyddiau fel plastigau defnydd untro a'r rhai sy'n deillio o danwydd ffosil. Mae gweithredu ar lygredd plastig yn uchel ar yr agenda a byddwn ni'n symud i wahardd cynhyrchion plastig untro, gan gynnwys ffyn bys cotwm, cyllyll a ffyrc, platiau, gwellt, troellwyr, ffyn balŵns a chwpanau. Ond ynghyd â gwaharddiad, rydym ni'n cymryd camau i sicrhau bod y cyfrifoldeb am gostau diwedd oes deunyddiau yn cael ei roi ar gynhyrchwyr ar sail egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu. Rydym ni hefyd yn gweithio i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru ar opsiynau i drethu neu godi tâl ar rai cynhyrchion a gyda phartneriaid mewn awdurdodau lleol a'r sector preifat ar fentrau i ddatblygu mwy o gapasiti ailbrosesu plastig.
Ein nod yw sicrhau ein bod yn gosod y sylfeini i fynd y tu hwnt i ailgylchu a dod â manteision ehangach i Gymru o symud i economi gylchol. Yn y modd hwn, mae gwneud pethau'n iawn o ran yr amgylchedd yn golygu eu gwneud yn iawn ar gyfer yr economi hefyd. Yn gynharach eleni, cyhoeddais ein cronfa economi gylchol £6.5 miliwn. Mae WRAP Cymru bellach wedi dyfarnu'r grantiau cyfalaf cyntaf o dan y gronfa. Mae'r grantiau hyn, sef cyfanswm o £355,000, yn mynd at dri gwneuthurwr o Gymru i fuddsoddi mewn offer i gynyddu faint o blastig a phapur sydd wedi'u hailgylchu sydd yn eu cynnyrch. Mae'n cael ei baru gan fuddsoddiad o dros £1.7 miliwn gan y busnesau eu hunain.
Ddoe, lansiwyd ein hymgynghoriad i gynyddu ailgylchu busnesau, ac yn ddiweddarach eleni byddwn ni'n ymgynghori ar strategaeth gynhwysfawr ddiwastraff newydd—strategaeth a fydd yn adolygu ac yn ailgychwyn ein huchelgais a'n gweithredoedd ar gyfer Cymru ddiwastraff. Rwyf i eisiau i'r strategaeth newydd fynd y tu hwnt i ailgylchu drwy weithio i gyflawni ein hymrwymiad at ddatgarboneiddio ac economi gylchol wirioneddol. Mae hyn yn hollbwysig yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu ac o ran datblygu diwydiannau gwyrdd a chyfleoedd y dyfodol.
Rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu cofnod ailgylchu Cymru a ffordd Cymru o ymdrin â gwastraff: lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu ar gyfer dyfodol gwyrddach, cryfach a thecach.