7. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Yr Adolygiad Annibynnol ar Ddatgarboneiddio Cartrefi Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 24 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 6:07, 24 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau dechrau drwy ddiolch i Chris Jofeh a'i grŵp annibynnol o randdeiliaid am gyflwyno'u hadroddiad deifiol, ond o bosib trawsnewidiol, 'Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell'. Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf, ychydig iawn o bethau annisgwyl a geir am yr hyn y mae angen i ni ei wneud, y brys, y raddfa a'r costau, ond mae ei ddarllen yn ddigon i'ch sobri.

Pan wnaethom ni ofyn i Chris arwain y grŵp hwn yn gynnar yn 2018 yr her oedd sut, yng nghyd-destun deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, y gallem ni leihau'r carbon a ddefnyddir mewn 1.4 miliwn o gartrefi gan 80 y cant mewn 30 mlynedd drwy raglen ôl-osod ar gyfer pob deiliadaeth. Ar ôl inni dderbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ym mis Mehefin, diwygiwyd y targed hwnnw i bob pwrpas i ofyn am ostyngiad o 95 y cant o leiaf, gydag uchelgais i sicrhau gostyngiad net di-garbon. Mae'r adroddiad gan y grŵp annibynnol yn nodi'r targed newydd hwn.

Mae'n nodi'r elfennau rhyngberthynol hanfodol yn y rhaglen datgarboneiddio tai y mae angen i ni eu datblygu nawr, gan weithio gydag eraill. Nid ymdrech unigol yw hon. Nodwyd saith gofyniad: ymrwymiad strategol, targedau heriol, system i sicrhau canlyniadau o ansawdd, cymorth ariannol a mathau eraill o gymorth, casglu data, pwyso a mesur posibiliadau, a gweithio gyda phobl a chymunedau i sicrhau bod newid yn digwydd. Rwy'n cytuno â'r holl ofynion hyn, ac rwy'n siŵr, bod eraill yn y Siambr yn cytuno hefyd. Ond yr hyn y mae'r adroddiad yn ei egluro hefyd, yn fy marn i, yw nad rhestr o argymhellion yw hon y gallwn ni ddewis a dethol ohoni. Os ydym ni am ymateb mewn difrif i her newid yn yr hinsawdd, mae angen i ni werthfawrogi ehangder yr her sy'n ein hwynebu a'r ymateb integredig y mae'n rhaid i ni ei lunio nawr.

Mae'n rhaid i ni gydnabod bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau yn y rhan fwyaf o'r meysydd polisi allweddol y mae'r adroddiad yn eu cwmpasu. Rhaid i'r Llywodraeth hon a Llywodraethau dilynol wneud eu gorau glas i wneud y newid sydd ei angen dros y 30 mlynedd nesaf, ond gadewch i ni beidio ag esgus y bydd hi'n rhwydd ac yn rhad. Mae yna gymaint o feysydd o ansicrwydd, a thri yn arbennig. Mae gennym ni ffordd bell i fynd o hyd o ran datblygu atebion technegol cynhwysfawr i ddatgarboneiddio ein stoc dai bresennol er mwyn cyrraedd y targedau yn yr adroddiad. Mae arnom ni angen data llawer gwell ynghylch cartrefi sy'n bodoli'n barod, a gweithredir ar hynny'n fuan. Mae angen i ni ddatblygu dealltwriaeth lawer gwell o gyfanswm costau ôl-osod. Nid ydym ni eto mewn sefyllfa i allu ymrwymo'r arian y bydd ei angen, ond gwyddom y bydd angen ymrwymiad a buddsoddiad gan bob rhan o gymdeithas, gan gynnwys deiliaid tai. Bydd angen i'n rhaglen adlewyrchu hynny. Ac yn drydydd, ni wyddom ni pa mor gyflym y bydd y gridiau nwy a thrydan cenedlaethol yn datgarboneiddio. Er mor bwysig yw cyflawni'r newid hwnnw, rhaid inni sicrhau hefyd y caiff ei gyflawni heb drosglwyddo'r costau hynny i deuluoedd sy'n lleiaf abl i'w fforddio.

Ni allwn ni aros nes bydd yr holl atebion gennym ni nac ychwaith nes bydd yr adnoddau gennym ni. Nid wyf yn siŵr os oes unrhyw un â'r holl atebion ynglŷn â newid hinsawdd ar hyn o bryd. Yr hyn a wyddom ni yw bod diffyg gweithredu yn peri peryglon llawer mwy. Felly, er gwaethaf yr holl beryglon ac ansicrwydd, rwyf wedi penderfynu derbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad mewn egwyddor. Nid yw hyn oherwydd fy mod yn anghytuno â'r argymhellion, ond oherwydd ansicrwydd parhaus ynghylch y ffordd orau o'u cyflawni neu eu gweithredu a'r gwaith pellach sydd ei angen o fewn a thu allan i'r Llywodraeth er mwyn i ni fod mor glir â phosib ynghylch costau.

Hoffwn ddim ond gwneud sylwadau byr ynghylch rhai o'r prif argymhellion. Mae argymhelliad 1 yn cynnwys yr angen am ymrwymiad gan bleidiau gwleidyddol eraill i gefnogi rhaglen 30 mlynedd. Rwy'n edrych ymlaen at glywed eich ymateb i hynny. Mae argymhelliad 2 yn gofyn i gartrefi cymdeithasol a'r rheini sy'n dioddef o dlodi tanwydd gyrraedd band A y Dystysgrif Perfformiad Ynni ymhen 10 mlynedd. Rwy'n deall y nod hwn yn llwyr ac yn cefnogi'r angen i wneud hynny, ond mae angen i mi wybod ar fyrder beth y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd i gartrefi, y costau cysylltiedig, dylanwad datgarboneiddio'r grid, y bobl sy'n berchen ar y cartrefi ac, yn bwysig iawn, y trigolion.

Mae fy swyddogion eisoes yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i ddechrau'r gwaith modelu ar gyfer cartrefi cymdeithasol. Byddwn yn disgwyl i hynny newid pwyslais Safon Ansawdd Tai Cymru ar ôl Rhagfyr 2020. Rwy'n rhagweld manteision eraill hefyd, gan gynnwys ystyried effeithiolrwydd dulliau cyfredol mewn rhaglenni fel Cartrefi Clyd, systemau cymorth priodol i berchenogion cartrefi sy'n gallu talu, a thargedu polisïau allweddol fel y strategaeth tlodi tanwydd newydd.

Mae'n bwysig pwysleisio bod yr adroddiad a'i dystiolaeth ategol yn glir—ni all pob cartref gyrraedd band A y Dystysgrif Perfformiad Ynni ar hyn o bryd. Gallai cyflawni hynny erbyn 2030 gyflwyno costau yn y 2020au y gellir eu lleihau neu eu trosglwyddo yn y tymor hwy drwy fabwysiadu targed llai mympwyol. Efallai na fydd rhai cartrefi byth yn cyrraedd band A y Dystysgrif Perfformiad Ynni, ond rwy'n dweud 'ar hyn o bryd' yn fwriadol. Yn sgil y modelu ac yn seiliedig ar y dystiolaeth sy'n sail i'r adroddiad, rwy'n tybio y bydd angen i ni fynd ar drywydd atebion ôl-osod. Mae hyn yn golygu gwneud y gorau y gallwn ni i leihau'r galw am ynni a'r allyriadau mewn cymaint o gartrefi ag y gallwn ni, gan ddefnyddio atebion sy'n bodoli eisoes, ar sail 'lled-edifar'. Y nod yw diogelu cartrefi mewn modd sy'n gallu bod yn ddi-garbon, ac yn barod i fabwysiadu atebion a dulliau gweithredu yn y dyfodol pan fydd hynny'n ddichonadwy ac yn ddiogel. Bydd y profi a'r treialu y cyfeirir atynt yn yr adroddiad yn hanfodol.

Bydd llawer o'r penderfyniadau hyn yn perthyn i dymor nesaf y Llywodraeth a sawl tymor ar ôl hynny. Am reswm da, ni chaniateir inni glymu dwylo ein holynwyr ac nid wyf yn cynnig gwneud hynny, ond rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o bobl yn y Siambr heddiw'n deall yr angen a'r brys i weithredu er gwaethaf lefel yr ansicrwydd. Felly, mae angen i ni ddechrau datblygu rhaglen newydd yn barod ar gyfer y tymor Cynulliad nesaf. Mae angen inni ddatblygu'r achos dros fuddsoddi nawr hyd yn oed os mai'r Llywodraeth nesaf fydd yn gwneud y penderfyniadau gwirioneddol ynglŷn â buddsoddi. Rwyf felly'n falch iawn o ddweud bod Chris Jofeh unwaith eto wedi cytuno i arwain y gwaith datblygu gyda rhanddeiliaid, gyda chefnogaeth swyddogion Llywodraeth Cymru. Byddaf yn sefydlu grŵp cyllid gwyrdd, fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad, i edrych am atebion cyllid arloesol. Rydym yn gwneud cysylltiadau â'r gwaith ar dlodi tanwydd sydd ar y gweill ym mhortffolio Lesley Griffiths. Mae fy adran yn gweithio gyda chydweithwyr yn adran Kirsty Williams i fynd i'r afael ag anghenion sgiliau, a rhaid inni feithrin gweithlu medrus a hyfforddedig fel y gall ein cymunedau a'n busnesau bach a chanolig fanteisio ar y cyfleoedd enfawr a ddaw o werth 30 mlynedd o waith. Mae hyn yn cyd-fynd â'n gwaith ar economïau sylfaenol a chylchol.

Mae ôl-osod o ran ynni yn ein cartrefi nid yn unig yn gyfle mawr i leihau ein hallyriadau carbon yn sylweddol a chyrraedd ein targedau, ond mae hefyd yn gyfle i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gwella cysur ac ansawdd mewn cartrefi, creu swyddi a hyrwyddo hyfforddiant, cadwyni cyflenwi a diwydiannau yng nghymunedau Cymru. Mae ynghylch gwneud Cymru'n ffyniannus, yn wyrdd ac yn gyfartal. Diolch.