Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 25 Medi 2019.
Rwy'n falch ein bod ni'n cael y ddadl hon, ac rwy'n siomedig iawn ynglŷn â chyfraniad y Ceidwadwyr, nid yn unig heddiw, ond yn yr ymchwiliad hefyd. Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn amheus pan ddechreuodd ein pwyllgor yr ymchwiliad hwn. Fel cyn-swyddog prawf, sydd â diddordeb brwd yn y system gyfiawnder er nad yw wedi'i datganoli, roeddwn yn credu y byddai'n rhyfedd i ni, fel pwyllgor, ymweld â gwahanol garchardai i siarad â charcharorion am rywbeth a oedd er ein lles ni. Rydym yn ymwybodol iawn o ystod y problemau y mae carcharorion yn eu hwynebu, o ddigartrefedd i broblemau cyffuriau ac alcohol, iechyd meddwl, chwalfa deuluol, cam-drin, trais yn y cartref, ac eto nid oeddem yn mynd i'r carchardai i siarad â phobl am y materion hynny, ond yn hytrach, roeddem yn gofyn i garcharorion a staff am eu barn ar bleidleisio, drosom ni mae'n debyg. Mae'n rhaid i mi ddweud i mi deimlo braidd yn anghyfforddus am y cyfan. Ond roeddwn i'n anghywir.
Daeth yn amlwg yn fuan yn ystod ein hymweliadau â charchar Parc a charchar Eastwood Park y gallai rhai o'r carcharorion hyn weld ffordd drwy ein hymchwiliad o roi eu pryderon ar yr agenda drwy gael y bleidlais. Ar hyn o bryd, pwy sy'n gwrando arnynt? A oes ganddynt lais o gwbl? Nac oes. Mae carcharorion wedi cael eu hanghofio a'u bwrw i'r cyrion gan lunwyr polisi, gwleidyddion a'r gymdeithas ehangach, ac yma mae gennym gyfle i wneud rhywbeth i newid hynny.
Mae pobl yn anghytuno ynghylch diben carchar. Ai ymwneud yn unig â chosbi y mae carchar? A ddylem wneud bywyd yn y carchar mor ofnadwy i bobl fel y byddent yn ei weld fel ataliad ac yn gwbl benderfynol o beidio â mynd yn ôl? Os mai dyna sut y'i gwelwn, nid yw amodau a hawliau yn bwysig. Ac eto, mae pobl yn meddwl pam y mae pobl sy'n mynd drwy system y carchardai'n dod allan wedi'u niweidio fwy ac yn tueddu i fod yn fwy troseddol. Nid yw carchar heb elfen adsefydlu yn fawr mwy na ffatri droseddau.
Yn fy marn i, dylai carchar fod yn gosb, ond dylai hefyd fod yn offeryn i ddiogelu'r cyhoedd a cheisio adsefydlu'r unigolyn fel nad yw'n cyflawni rhagor o droseddau ar ôl ei ryddhau. Mae dull adsefydlu yn arwain at lai o droseddu a chymdeithas fwy diogel, fel y byddai unrhyw gymhariaeth onest rhwng gwledydd Sgandinafia a'r DU yn ei ddangos. Dylem anelu at leihau poblogaeth y carchardai drwy adsefydlu mwy o bobl a thrin pobl fel y dinasyddion ag yr ydynt a'r dinasyddion yr ydym eisiau iddynt fod. Am y rhesymau hyn rwy'n cefnogi ymestyn yr etholfraint i gynnwys carcharorion ac rwy'n cymeradwyo argymhellion yr adroddiad pwyllgor hwn.
Mae cael y cyfle i bleidleisio yn atgoffa carcharorion eu bod yn dal yn ddinasyddion er iddynt gael eu cosbi am droseddu. Mae'n eu hatgoffa eu bod yn mynd i gael eu rhyddhau un diwrnod a bod disgwyliadau arnynt fel dinasyddion. Gall cael y cyfle i roi croes yn y blwch helpu i ailintegreiddio a chynnwys carcharorion yn y gymdeithas ehangach.
I mi, er fy mod yn amheus i ddechrau ynghylch defnyddioldeb yr ymchwiliad hwn i boblogaeth y carchardai, deuthum yn fwyfwy argyhoeddedig mai dyma oedd y peth cywir i'w wneud. Os ydych yn fenyw a ddedfrydwyd i'r carchar, mae'n warthus fod yn rhaid i chi gael eich carcharu mewn gwlad arall heb fynediad at eich teulu, at y newyddion o Gymru, at eich rhwydwaith adsefydlu, a dylai hynny ynddo'i hun fod yn rheswm digon da dros ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol, er mwyn inni allu gwneud rhywbeth am hynny.
Nid braint yw pleidleisio ac ni ddylai gael ei ystyried felly. Mae pleidleisio'n rhywbeth y dylem fod eisiau i bob un o'n dinasyddion ei wneud. I mi, mae hwn yn gwestiwn lle y gallai Cymru ddangos y gallem wneud pethau'n wahanol, yn fwy trugarog, gyda mwy o dosturi. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi cyfle i'r Llywodraeth ac rwy'n mawr obeithio y bydd yn manteisio arno.