Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 1 Hydref 2019.
Rwy'n diolch i'r Aelod am y pwyntiau yna. Mae'n siarad am yr hyder sydd ganddo yn Boris Johnson. Rwy'n credu y defnyddiodd yr ymadrodd 'gwneud ei orau glas'—rhyfeddol iawn a dweud y gwir. Yr hyn yr ydym ni wedi ei ddarganfod heddiw o wybodaeth a gafodd ei datgelu heb ganiatâd, yw nad yw'r Llywodraeth wedi cyflwyno ei safbwynt hyd yn oed i Gomisiwn yr UE ei ystyried, felly mae'r syniad bod y Prif Weinidog wedi bod yn negodi dros yr wythnosau diwethaf yn gwbl chwerthinllyd. Mae llai na 30 diwrnod cyn diwedd y mis, ac nid yw wedi cyflwyno cynnig i'r Comisiwn Ewropeaidd hyd yn hyn. Felly, mae ei hyder, mae'n ddrwg gen i, fel sydd mor aml yn wir, yn llwyr ar gyfeiliorn.
Mae'n sôn am godi ofn. Wn i ddim pwy sy'n dod i'w gymorthfeydd yn ei etholaeth ef, ond rwyf i'n cael pobl yn dod i'm gweld i ac yn sôn am eu pryderon ynghylch a fyddan nhw'n gallu aros yn y DU, sut y gallan nhw recriwtio pobl i weithio yn eu busnesau, sut y gallan nhw gael cymorth ar gyfer hyfforddiant sgiliau yn y dyfodol, sut y gallan nhw gadw eu sefydliadau trydydd sector ar eu traed yn ystod yr wythnosau nesaf. Nid codi ofn yw hyn, ond nodi realiti ym mywyd fy etholwyr i ac rwy'n mentro dweud, yn eich etholaeth chi ac etholaeth pawb arall yn y Siambr hon. Rwyf i o'r farn eich bod chi'n gwneud cam ofnadwy â phrofiad eu bywydau trwy wfftio hyn a'i labelu'n codi ofn.
Mae'r Aelod yn sôn am y buddsoddiad sydd ar ddod, ac mae'n amlwg ei fod wedi edrych ar y baneri yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol sy'n sôn am fuddsoddi yn hyn a'r llall. Mae'r syniad y bydd Llywodraeth y DU, yng nghyd-destun Brexit heb gytundeb, yn buddsoddi mewn unrhyw beth yn gwbl chwerthinllyd. Bydd y dinistr a achosir i gyllid y DU oherwydd hynny'n arwyddocaol tu hwnt.
Mae'n siarad am berfformiad economaidd ers y refferendwm yn 2016. Nid wyf i'n gwybod ym mha wlad y mae'n byw. Fe wyddom ni i gyd am wendid y bunt. Bydd unrhyw un sydd wedi treulio unrhyw amser dramor yn ystod yr haf eleni yn gwybod pa mor wan yw'r bunt. Clywais i Carolyn Fairbairn o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain fore ddoe yn sôn am fuddsoddiad sydd 26 y cant o dan duedd yn y tair blynedd diwethaf, mae'r cynnyrch domestig gros i lawr 2 y cant, ac mae hynny'n ergyd i'r bunt ym mhocedi'r bobl. Benthycodd Llywodraeth y DU £24 biliwn yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, sy'n cyfateb i 1.1 y cant o'r cynnyrch domestig gros, i gadw'r hwch rhag mynd drwy'r siop.
Gwyddom ni gan y sefydliad gweithgynhyrchu Make UK sut y mae archebion domestig ac allforio wedi crebachu yn ystod y chwarter hwn am y trydydd chwarter yn olynol, felly wn i ddim ym mha wlad y mae ef yn byw, ond rwyf i'n byw yng Nghymru y byd go iawn, a dyna pam mae'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar baratoi Cymru yn y ffordd orau y gallwn ar gyfer y math o Brexit heb gytundeb y mae ef ond yn rhy hapus i'w hyrwyddo.