Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 1 Hydref 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rydych chi'n sôn am sut y mae Llywodraeth y DU wedi methu o ran ei chyfrifoldebau a bod Gweinidogion Cymru wedi eu cloi allan o gyfarfodydd hollbwysig, ac rydych chi'n dweud bod y sefyllfa wedi dirywio'n fawr ers i Boris Johnson gymryd yr awenau. Mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud wrth y pwyllgor materion allanol yn y gorffennol. Nawr, rwyf i am ddweud eto ei bod hi'n arwyddocaol, pan oeddech chi'n dweud hyn, fod Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yn sôn o dan eu hanadl na fydden nhw'n awyddus i weld Llywodraeth Cymru yn yr ystafell ychwaith. Mae'n debyg mai'r fath yna o amharch tuag at ddatganoli fydd yn golygu y bydd y blaid honno'n goruchwylio'r broses o chwalu'r Deyrnas Unedig.
Nawr, rwy'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynigion, hefyd, ar i adolygu'r systemau cysylltiadau rhynglywodraethol sydd gennym ni. Nid yw eich geiriau chi heddiw'n rhoi llawr iawn o hyder i mi y bydd y Llywodraeth bresennol yn San Steffan yn barod i chwarae'n deg ac y byddan nhw mewn gwirionedd yn awyddus i weld unrhyw ddiwygio o gwbl. Pa gamau allwch chi eu cymryd i orfodi'r diwygio hwnnw, ac os na allwch chi orfodi'r diwygio hwnnw, fel y mae'n debygol y byddwch yn dweud wrthyf, beth y mae hynny'n ei ddweud wrthym ni am yr anghydbwysedd sylfaenol o ran grym yn yr undeb yr ydym ni'n rhan ohono ar hyn o bryd? Yn olaf, rydych chi'n sôn bod Llywodraeth y DU yn bychanu maint yr heriau a ddaw yn sgil Brexit heb gytundeb. Nawr, mae hyn, ynghyd â'r ffaith bod y Prif Weinidog yn barod i fynd yn groes i'r gyfraith—o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, tybed a wnaiff y Gweinidog fynegi ei farn ef neu farn ei Lywodraeth ar ba un a allai fod dadl bellach o blaid uchelgyhuddo Boris Johnson.