Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 1 Hydref 2019.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. O ran y damcaniaethau yn y wasg heddiw ynglŷn â'r datblygiadau posibl yng nghyd-destun y trafodaethau rhwng y Prif Weinidog a'r Comisiwn Ewropeaidd, rwyf i am ddweud yn syml nad oes gennym unrhyw olwg ar beth yw'r rhain yn eu sylwedd. Efallai y bydd hi wedi gweld trafodion y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ddechrau'r wythnos diwethaf pan wnaeth Gweinidog yn Llywodraeth y DU yn eglur mai bwriad Llywodraeth y DU oedd peidio â rhannu'r dogfennau nad ydynt yn bapurau, fel y'u gelwir, sef y papurau technegol rhagarweiniol i unrhyw ymgysylltu a negodi gwirioneddol, â Llywodraeth Cymru. Mae yna gwestiwn ynghylch i ba raddau y gall ymgysylltu ynglŷn â'r trafodaethau fod yn effeithiol heb i'r wybodaeth honno gael ei rhannu, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r modd y mae angen i ni ystyried ein hymateb ni ynglŷn â hynny.
O ran ei phwynt penodol am y damcaniaethau bod y Prif Weinidog yn ceisio diystyru estyniad i Erthygl 50 yn rhan o gytundeb, rwy'n credu y byddai unrhyw ymgais i osgoi deddfwriaeth seneddol yn destun craffu sylweddol iawn yn y llysoedd pe byddai'n dod i hynny. Bydd unrhyw beth sy'n ymddangos fel ymgais i rwystro ewyllys y Senedd yn y cyswllt hwn yn cael ei ystyried yn ofalus iawn.
Nodais i, fel y gwnaeth hithau, rwy'n credu, y trafodion yn y Senedd yr wythnos diwethaf mewn ymateb i gwestiynau ynglŷn â'r mater hwn gyda'r Prif Weinidog a'i ieithwedd ef, ac rwy'n siŵr y byddai llawer ohonom ni yn y Siambr hon o'r farn ei bod yn gwbl wrthun. Clywais Mark Reckless yn yngan ar ei eistedd gyfeiriad unwaith eto at 'y Ddeddf ildio' wrth i'r trafodion hyn fynd rhagddynt, ac ni allaf i ddechrau mynegi fy ffieidd-dod tuag at iaith o'r fath. Dyna'r fath o iaith sy'n arwain at godi ofnau a chynnwrf yn y wlad. Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom ni i osgoi iaith o'r fath yna os ydym ni mewn swydd arweinyddiaeth gyhoeddus, a byddai'n dda iddo ef gofio hynny.
Rwyf i o'r farn, yn olaf, ynglŷn â'r pwynt am friffio a chraffu priodol, mai'r gwir yw ein bod yn cael ein gwahodd i gyfarfodydd yn fwy aml nag yn wythnosol. Y pwynt yr hoffwn i fod yn glir yn ei gylch yw bod cyflymder paratoi Llywodraeth y DU, yn ôl pob golwg, wedi cynyddu ar adeg pan fo'n hymwneud ni â nhw wedi lleihau yn y darlun cyffredinol. Dyna'r hyn sy'n peri gofid i mi. Ond rwy'n credu y bydd hi'n gweld yn y cynllun gweithredu Brexit heb gytundeb ac yn y datganiadau y bydd fy nghyd-Weinidogion yn eu gwneud y prynhawn yma, nad yw ein hymdrechion ni yn y fan hon wedi pylu yn Llywodraeth Cymru o ran y graddau yr ydym ni'n canolbwyntio ar sicrhau bod Cymru mor barod â phosibl.