Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 1 Hydref 2019.
Diolch, Llywydd. Y prynhawn yma, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfres o ddatganiadau a fydd yn amlinellu’r bygythiad gwirioneddol i Gymru os ceir Brexit heb gytundeb. Bydd y datganiadau hefyd yn sôn am y camau lliniaru rŷn ni'n eu rhoi ar waith i geisio mynd i'r afael â hyn cyn belled ag y bo modd. Mae'r rhain yn adeiladu ar y cynllun gweithredu y gwnaethom ni ei gyhoeddi ar 16 Medi a’r ddogfen 'Dyfodol mwy disglair i Gymru', a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.