Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 1 Hydref 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu’r cyfle i gyfrannu i'r ddadl ar benderfyniad ariannol y Bil Senedd ac Etholiadau, fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Mesur yma.
Cafodd amcangyfrifon costau’r ddeddfwriaeth eu hamlinellu yn yr asesiad effaith rheoliadol a gyhoeddwyd gyda’r Bil pan y’i cyflwynwyd, ond yn unol â'r Rheolau Sefydlog, bydd diweddariad i'r costau yn yr asesiad diwygiedig yn cael ei osod ar ôl Cyfnod 2 i gynnwys unrhyw welliannau a wnaed i’r Bil.
Ar gais y Pwyllgor Cyllid, bydd y diweddariad hwn hefyd yn cynnwys amcangyfrif o gostau Llywodraeth Cymru ynghlwm â chodi ymwybyddiaeth o roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed, a gyfeiriwyd atynt yn yr asesiad effaith gwreiddiol fel ffigurau anhysbys ar y pryd. Bydd y memorandwm esboniadol hefyd yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu unrhyw welliannau a gytunwyd o ran y Comisiwn Etholiadol ar atebolrwydd a sgrwtini.
Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Cyllid am ei ystyriaeth ddiweddar o welliannau arfaethedig y Cwnsler Cyffredinol ar y mater, ac am adroddiad perthnasol y pwyllgor a gafodd ei gynhyrchu mewn dim ond dau ddiwrnod. Heb os, bydd hyn o gymorth i Aelodau wrth iddynt ystyried penderfyniad ariannol heddiw a’r gwelliannau a drafodir yr wythnos nesaf yn y ddadl ar Gyfnod 2 y Mesur.
O ran costau’r gwelliannau ynghlwm â’r Comisiwn Etholiadol, mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid yn amlinellu goblygiadau ariannol y gwelliannau mae’n bwriadu eu gosod. Rwy’n fodlon hefyd mai dyma'r amcangyfrifon gorau o ran y costau i Gomisiwn y Cynulliad. Wrth gwrs, mae ystod eang o welliannau eraill wedi eu gosod, ac mae rhai gyda goblygiadau ariannol amlwg. Ond o ystyried yr holl oblygiadau hyn o ran cost, rwy’n parhau o’r farn bod buddiannau polisi’r Bil i bobl Cymru yn sicr yn werth am arian, ac rwy’n annog y Cynulliad y prynhawn yma i gymeradwyo’r penderfyniad yma.