Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 1 Hydref 2019.
Rydym wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu bwrw ymlaen i bleidlais. Iawn, iawn. Felly, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn y—mae'n ddrwg gen i, dylwn i ddweud beth ydyw: y cynnig i dderbyn y penderfyniad ariannol ar gyfer Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 38, neb yn ymatal, dau yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.