Part of QNR – Senedd Cymru ar 1 Hydref 2019.
Mae ysgolion preifat yn ôl eu natur yn annibynnol rhag Lywodraeth Cymru o ran cyllid a llywodraethu. Ond mae’n rhaid i bob ysgol annibynnol gael ei chofrestru gyda Gweinidogion Cymru. Fe fyddwn ni’n parhau i weithio gydag Estyn i wneud yn siŵr bod y safonau rydyn ni’n eu disgwyl, ac sy’n cael eu cyflawni, gan ysgolion annibynnol yn parhau i fod yn uchel.