Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 2 Hydref 2019.
Rydym wedi cyrraedd y pum munud, a buaswn yn dyfalu eich bod yn sefyll tu allan yn aros i mi alw amser, ond ni fuaswn mor greulon â dweud hynny.
Felly, symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio, a'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 02-19, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 37, roedd pedwar yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.