Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 22 Hydref 2019.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, am yr ateb. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £120 miliwn i sefydlu wyth o sefydliadau technoleg newydd yn Lloegr. Mae hyn yn ychwanegol at y 12 o sefydliadau sydd eisoes yn weithredol yno. Partneriaeth rhwng colegau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr yw'r sefydliadau hyn, ac maen nhw'n cynnig cymwysterau technegol addysg uwch i fyfyrwyr mewn meysydd fel digidol, adeiladu, gweithgynhyrchu a pheirianneg. Prif Weinidog, o gofio bod Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru wedi galw am fwy o bwyslais ar gymwysterau galwedigaethol, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i agor sefydliadau technoleg i wella'r sail sgiliau i weithwyr yng Nghymru, os gwelwch yn dda?