Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 22 Hydref 2019.
Llywydd, nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw safleoedd na chymunedau yng Nghymru lle y gellid lleoli cyfleuster gwaredu daearegol, ac ni fyddwn yn ceisio gwneud hynny ychwaith. Mae polisi Llywodraeth Cymru yn eglur: gellir adeiladu GDF yng Nghymru dim ond os oes cymuned sy'n fodlon ei gynnal, ac awdurdod lleol yn fodlon rhoi ei ganiatâd.