Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 22 Hydref 2019.
—wedi bod ar Twitter i ddadlau yn erbyn adeiladu Hinkley C, yn gofyn beth y gellid ei gyflawni gyda'r biliynau ar filiynau o bunnoedd a wariwyd yno. Felly, pan fydd EDF Energy yn dychwelyd i Lywodraeth Cymru i ofyn am ganiatâd i ddympio ail rownd o fwd a garthwyd o'r tu allan i adweithydd niwclear nad yw hyd yn oed yng Nghymru, a wnewch chi dri pheth? Dyma'r cwestiwn. Yn gyntaf, a wnewch chi fynnu bod asesiad llawn o'r effaith ar yr amgylchedd yn cael ei gynnal y tro hwn? Yn ail, a wnewch chi fynnu bod yr ystod lawn o brofion ymbelydredd yn cael ei chynnal, gan gynnwys alffa, gama a sbectrometreg dorfol? Ac yn drydydd, a wnewch chi roi pleidlais rydd i'ch ACau Llafur y tro nesaf yn lle eu chwipio i bleidleisio dros ganiatáu i'r dympio ddigwydd?