Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 22 Hydref 2019.
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Wrth gwrs, dwi'n cytuno am y gwaith rydym ni'n ei wneud i fuddsoddi mewn sgiliau pobl yn y dosbarth, mae hwnnw'n hollbwysig i helpu pobl gyda'u hyder i ddefnyddio'r iaith ac i greu awyrgylch ble maen nhw'n gallu defnyddio y sgiliau sydd ganddyn nhw yn barod i helpu pobl ifanc. Dyna pam rydym ni'n buddsoddi y swm mwyaf yn ein hanes ni yn y gweithlu mewn ysgolion, ac rydym ni eisiau gwneud mwy yn addysg bellach hefyd i ddefnyddio'r gwersi rydym wedi eu gweld yn y dosbarth yn ein hysgolion ni, ac i wneud mwy gyda'r colegau addysg bellach hefyd.