Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 22 Hydref 2019.
Llywydd, mae hwn yn gytundeb gwael i Gymru ac yn gytundeb gwael i'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Mae'n gytundeb gwael i Gymru oherwydd y byddai'n amlwg yn niweidio ein heconomi, yn fwy na dim ein sectorau gweithgynhyrchu a bwyd-amaeth. Byddai'n creu rhwystrau masnach newydd a sylweddol nad ydynt yn dariffau, hyd yn oed pe osgowyd y tariffau eu hunain yn y pen draw. Nawr, nid ydym ni wedi gweld dadansoddiad Llywodraeth y DU o'r effaith economaidd, ond awgrymodd eu modelu blaenorol, yn unol â llawer o ddadansoddiadau economaidd difrifol eraill, y byddai canlyniad o'r fath yn arwain at ddiffyg o tua 6.7 y cant mewn cynnyrch domestig gros dros gyfnod o 15 mlynedd o'i gymharu â'r hyn a fyddai'n digwydd pe baem yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd—canlyniad, mewn geiriau eraill, Llywydd, sy'n fwy na dwywaith cynddrwg na chytundeb Theresa May, a chanlyniad a fyddai'n ein gwneud ni i gyd yn dlotach ac yn bygwth swyddi a buddsoddiad ledled Cymru. Mae'n gytundeb gwael i Gymru, Llywydd, oherwydd nad oes ymrwymiadau sydd wedi'u rhwymo mewn cyfraith i gynnal hawliau a diogelwch cyflogaeth, defnyddwyr a'r amgylchedd, dim ond dyhead yn y datganiad gwleidyddol y gallai Llywodraeth y DU droi ei chefn arno.
Mae'n gytundeb gwael gan na fyddai'n rhoi diwedd ar ansicrwydd—y ffwlbri sy'n cael ei lefaru am 'gyflawni Brexit' fel petai'r cytundeb hwn rywsut yn ddiwedd y ffordd yn hytrach na dim ond y dechrau. Fel y mae rhai o'r Grŵp Ymchwil Ewropeaidd, sydd wedi'u hudo i ildio eu hegwyddorion a chefnogi'r cytundeb hwn, wedi honni eu hunain, mae'n eithaf posib, ar ddiwedd y cyfnod pontio, dim ond 14 mis byr i ffwrdd, y gallem ddal i adael heb gytundeb o gwbl, neu, yn hytrach, gallai Prydain Fawr yn y pen draw adael heb ddim cytundeb, oherwydd mae perthynas hirdymor Gogledd Iwerddon â'r UE wedi'i gosod yn gadarn, o leiaf tan 2024, ac yn ymarferol, bron yn sicr, yn amhenodol.
Nawr, Llywydd, nid wyf yn dod yma y prynhawn yma i feirniadu protocol Gogledd Iwerddon. Mae'n cyflawni ei ddiben—y llinell goch a nodwyd ar ddechrau'r negodiadau gan yr Undeb Ewropeaidd i sicrhau nad oes ffin galed ar Ynys Iwerddon. I ni, mae atal trais rhag dychwelyd i Ogledd Iwerddon yn flaenoriaeth bob amser, ond ni allwn ni esgeuluso effaith y cynigion hyn ar ein porthladdoedd yma yng Nghymru, cynigion yr ydym yn eu hystyried yn rhai difrifol, na'r modd y mae'r cytundeb hwn yn llyffetheirio busnesau Cymru. Ac mae hynny ddwywaith mor wir, Llywydd, oherwydd tra roedd y protocol o'r blaen yn backstop yr oedd 27 aelod yr UE a'r DU wedi ymrwymo i geisio ei osgoi, yr hyn a gynigir nawr yw trefniant parhaol sydd yn rhoi Gogledd Iwerddon mewn parth economaidd gwahanol i Brydain Fawr, gyda ffin galed ym Môr Iwerddon—yr hyn yr honnodd y Prif Weinidog mor ddiweddar â 2 Gorffennaf na fyddai unrhyw Brif Weinidog Ceidwadol yn cytuno iddo byth.