10. Dadl: Brexit

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 22 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:11, 22 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, o ran y pwynt cyntaf, mae'r Aelod wedi camgymryd. Nid yw'n deall beth fyddai'r cytundeb masnach rydd yn ei wneud a pham nad yw'n sicr yn gwneud yr hyn yr oedd yn ei honni. Bu i'w Lywodraeth ef, ar ôl cychwyn yn wreiddiol, ar ôl addo i'r DUP y byddai ganddyn nhw feto ar y cytundeb hwn, wedyn fradychu'r DUP. Yn y dyfodol ni fydd ond angen mwyafrif bychan ar Gynulliad Gogledd Iwerddon, a bydd y mwyafrif bychan hwnnw bob amser yno i ymestyn y trefniant y mae'r cytundeb hwn yn ei amlinellu. Dyna pam fy mod i'n dweud ei fod yn barhaol, a dyna pam fy mod i'n dweud bod eich Prif Weinidog, a aeth i Belfast ac a ddywedodd, fel y dyfynnais yn gynharach y prynhawn yma, 'byth', meddai, 'ni fyddaf byth mewn unrhyw amgylchiadau, o ble bynnag y daw'r awgrym, yn cytuno i ffin ym Môr Iwerddon', a dyna, ychydig wythnosau'n ddiweddarach, yn union yr hyn y mae wedi'i wneud.

Nawr, os yw safonau Prydeinig yn gwyro oddi wrth safonau'r UE, yna ni fydd busnesau Cymru yn gallu allforio nwyddau sy'n cyrraedd safonau'r DU i Ogledd Iwerddon. Yn fwy cyffredinol, o ran nwyddau o drydydd gwledydd y bydd modd eu rhoi ar y farchnad yng Nghymru, Lloegr a'r Alban o ganlyniad i unrhyw gytundebau masnach newydd, ni fydd modd mewnforio'r nwyddau hynny i Ogledd Iwerddon os nad ydyn nhw hefyd yn bodloni safonau'r UE. Gosodir unrhyw dariffau'r UE sy'n berthnasol ar nwyddau o'r fath hefyd, a dim ond os gellir profi na chânt eu gwerthu i'r Weriniaeth, gan gynnwys fel cydrannau neu gynhwysion cynhyrchion eraill, y gellir hawlio'r tariffau yn ôl. A ddoe, fel y darganfuom, bydd yn rhaid i hyd yn oed nwyddau o Ogledd Iwerddon gael tystysgrifau allforio i deithio i Brydain Fawr, hyd yn oed os oedd y newyddion hynny yn syndod i'r Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, sydd i fod yn gyfrifol am hyn i gyd.

Gadewch i ni fod yn gwbl sicr, Llywydd, fod hyn yn doriad enfawr yn uniondeb economaidd y Deyrnas Unedig, ac yn dor-ymddiriedaeth aruthrol ar ran y Prif Weinidog. Am yr holl resymau hyn, credwn na all ac na ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol gefnogi'r cytundeb hwn, ac y dylem ni ddangos nawr mewn termau diamwys na fyddwn ni, yn niffyg newid sylfaenol, yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i ddeddfwriaeth i weithredu'r cytundeb gwael hwn. Nawr, efallai nad yw cydsyniad deddfwriaethol yn derm a ddefnyddir yn eang y tu hwnt i'r Siambr hon, ond y mae'r hyn y mae'n ei olygu yn bwysig. Mae'n golygu mai dim ond os ydym ni wedi cytuno i'r newidiadau hynny y dylai Senedd y DU wneud newidiadau i'n pwerau a'n cyfrifoldebau. Mae'n gonglfaen sylfaenol i'r system sy'n galluogi'r Llywodraeth hon a'r Senedd hon i wneud penderfyniadau sy'n diwallu anghenion Cymru. Ac yn sicr, bydd angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma yn y Senedd ar gyfer y ddeddfwriaeth hon, y Bil cytundeb ymadael, sef deddfwriaeth hynod gymhleth o dros 100 o dudalennau, nad oedd y Senedd wedi'i gweld tan ddoe. Yn wir, rydym ni wedi cael llythyr gan yr Adran Dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn gofyn am ein caniatâd.

Nawr, pam hynny? Wel, bydd y Bil, er enghraifft, yn ein cyfyngu am o leiaf flwyddyn rhag pasio unrhyw ddeddfwriaeth sy'n anghydnaws â chyfraith yr UE. Bydd yn sefydlu awdurdod monitro annibynnol i ddiogelu hawliau dinasyddion yr UE, a fydd yn effeithio ar bwerau deddfwriaethol y Cynulliad hwn. Ac mae'n rhoi pwerau ysgubol i Weinidogion y DU i weithredu protocol Gogledd Iwerddon a allai hyd yn oed eu caniatáu ar eu pen eu hunain i newid Deddf Llywodraeth Cymru ei hun.

Llywydd, dyma'r ddeddfwriaeth bwysicaf a mwyaf pellgyrhaeddol i ddod gerbron y Senedd ers degawdau, a'r darn pwysicaf erioed sydd wedi gofyn am ein cydsyniad deddfwriaethol, ac eto mae'r Llywodraeth am ei hyrddio drwy ei holl gyfnodau yn San Steffan mewn llai na 10 diwrnod. Ac mae eisiau i'r Senedd hon a Senedd yr Alban roi cydsyniad deddfwriaethol hyd yn oed yn gyflymach. Mae'n eithaf afresymol. Fel deddfwrfeydd, rhaid inni gael amser i wneud ein gwaith craffu sylfaenol ac i wneud hynny'n gydwybodol ac yn briodol. I'r perwyl hwn, rwyf wedi ysgrifennu, ynghyd â Phrif Weinidog yr Alban, at Brif Weinidog y DU a Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, gan ei gwneud hi'n glir ei bod hi'n hanfodol cael estyniad i gyfnod erthygl 50 er mwyn inni gyflawni ein dyletswydd gyfansoddiadol.

Wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog wedi ceisio gwthio pethau yn y Senedd drwy fygwth y trychineb o Brexit heb gytundeb, ac mae wedi bod wrthi eto yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw—'fy ffordd i neu ddim o gwbl'—ac nid yw hynny'n ffordd o weithredu mewn democratiaeth. Tactegau 'bwli', i ddyfynnu Dominic Grieve, y Twrnai Cyffredinol Ceidwadol yn ystod y degawd hwn.

Nawr, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Senedd yn gwrthod cytuno ar amserlen sydd â'r unig bwrpas o arbed embaras i Brif Weinidog a fynnodd y byddai'n cyflawni Brexit erbyn 31 Hydref, 'ei gyflawni neu farw', gyda'r haerllugrwydd yr ydym wedi dod i arfer ag e. Dyna un rheswm pam, wrth inni gynhyrchu memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn ddiweddarach heddiw, fod arnom ni hefyd angen amser priodol i'r Senedd wneud ei gwaith. Dim ond os gwrthodir y cyfle hwn inni y byddaf yn gofyn ichi, Llywydd, ystyried caniatáu i'r Senedd gael cynnig o'r fath ger ei bron yn ystod y naw diwrnod nesaf.

Yn y cyfamser, rhaid i neges y Cynulliad Cenedlaethol hwn i Brif Weinidog y DU fod yn glir: rhaid i'r Senedd hon gael yr amser sydd ei angen i gyflawni'r cyfrifoldebau y mae'r gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni eu cyflawni. Mae arnom ni angen estyniad i erthygl 50 ac, fel sy'n ofynnol o dan y gyfraith, rhaid i'r Prif Weinidog geisio cyflawni hyn yn ddidwyll. Yna mae angen i ni roi'r mater yn ôl i'r bobl mewn refferendwm gydag 'aros' ar y papur pleidleisio. Os credwch chi fod y cytundeb hwn er budd y wlad hon mewn gwirionedd, ni fydd arnoch chi ofn caniatáu i hynny ddigwydd.

Yn y cyfamser, mae'r cytundeb hwn yn gytundeb gwael i Gymru ac yn gytundeb gwael i'r Deyrnas Unedig. Ni fyddwn yn ei gefnogi fel y mae ac, o'n rhan ni, gwyddom ei bod hi'n well i Gymru aros yn yr Undeb Ewropeaidd.