Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 22 Hydref 2019.
Ydw, rwy'n eich caru chi hefyd, Alun. Dadl Llafur yw na all bleidleisio dros y cytundeb hwn oherwydd nad yw'n amddiffyn—[Torri ar draws.] Dechreuaf eto. Dadl Llafur yw na all bleidleisio dros y cytundeb hwn oherwydd nad yw'n diogelu hawliau gweithwyr a'r amgylchedd. Am rwtsh.
Yr hyn a wnaiff, fel yr ydym ni wedi ei drafod yn ddiddiwedd, yw trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros wneud hynny o'r UE i Lywodraeth y DU. Pam mae Llafur yn credu na fydd unrhyw Lywodraeth y DU yn diogelu'r hawliau hynny?