10. Dadl: Brexit

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 22 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 5:50, 22 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ganiatáu imi. Yr anhawster yw hyn: yn 2017, roedd llawer yn y Siambr hon a gredai fod un canlyniad i'r etholiad; yn wir, cyflawnodd rywbeth aneglur. Beth petai'r etholiad yn arwain at Senedd grog arall? Yna byddem mewn sefyllfa lle nad oes mandad ar gyfer unrhyw beth. Yn yr amgylchiadau hynny, yr unig ffordd allan ohoni, siawns, yw cael refferendwm arall.