Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 22 Hydref 2019.
Ie, dyma ni eto, dyma ni eto. Ie, 3,000 o bobl wedi marw yng Ngogledd Iwerddon; 'dyma ni eto', medd meinciau'r Torïaid. Mae hynny'n dangos yn union beth yw eu barn am Ogledd Iwerddon a pha mor ddall ydynt i fater Iwerddon ei hun. Gadewch imi atgoffa'r Aelodau nad mater o fasnachu yw hyn; cwestiwn o heddwch yw hwn. Mae'n gwestiwn o heddwch. Ers 1998, yn y ddinas y mae fy ngwraig yn hanu ohoni, nid yw pobl yn cael eu lladd yn ddyddiol oherwydd eu crefydd a'u credoau gwleidyddol. Wrth wneud hyn yn wael mae peryg i'r dyddiau hynny ddychwelyd, ac nid oes angen hynny.
Gadewch i ni edrych ar y materion masnach yma. Mae un o'r materion a godais am Ogledd Iwerddon yn effeithio ar Gymru, a dof at hynny mewn eiliad. Pe bai gennych chi nwyddau yn dod o Ogledd Iwerddon, roedd yn ymddangos y gallech fynd i mewn i farchnad Prydain neu i'r farchnad sengl Ewropeaidd heb fod angen unrhyw waith papur ychwanegol. Roedd honno'n fantais gystadleuol a fyddai wedi sicrhau y byddai cwmnïau wedi gadael Cymru ac wedi mynd i Ogledd Iwerddon. Pam fyddech chi'n aros yma pryd y gallech fynd i rywle lle'r oedd gennych chi fynediad agored i'r ddwy farchnad? Nawr, nid wyf i'n gwybod, ac nid yw Steve Barclay, yr Ysgrifennydd Brexit yn gwybod chwaith. Ddoe dywedodd ddau beth hollol wahanol. Dywedodd na fyddai busnesau Gogledd Iwerddon angen tystysgrifau allforio yna dywedodd y byddai eu hangen. Felly beth mae hynny'n ei olygu nawr? Mae angen tystysgrifau allforio arnyn nhw nawr i fynd i'r ddwy farchnad, sy'n ei wneud yn lle llawer gwaeth i wneud busnes mewn gwirionedd. A dyma'r broblem: mae'r ansicrwydd yn anghredadwy, ac nid yw'r rhain yn fanylion bach, mae'r rhain yn fanylion sy'n hynod o bwysig ar gyfer y dyfodol.
Gallaf weld yr amser, Llywydd. Nid oes unrhyw asesiadau effaith. Ni fyddwn i'n prynu tŷ heb arolwg. Ni fyddwn i'n prynu car heb ei yrru i'w brofi. Pam ar y ddaear y dylwn i dderbyn cytundeb Brexit sydd heb ei asesu'n iawn hyd yn oed? Siawns nad yw hynny'n gwneud dim synnwyr o gwbl. Ac mae'n effeithio ar Gymru, yn y diwedd. Bydd hyn yn effeithio ar borthladdoedd Cymru. Bydd y tollau'n cael eu gwirio ym mhorthladdoedd Cymru, ac nid oes amheuaeth am hynny.
A'r pwynt olaf a wnaf yw hyn: rwyf yn cytuno y dylai Cynulliad Gogledd Iwerddon allu mynegi ei farn am y berthynas economaidd rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth, ond mae hwnnw'n fater sydd wedi'i ddatganoli. Mae hwnnw'n fater sydd wedi'i ddatganoli. Cyn gynted ag y bydd Llywodraeth y DU yn cyfaddef bod gan Lywodraeth a Chynulliad datganoledig lais dros fater sydd heb ei ddatganoli mewn gwirionedd, rhaid i'r un peth fod yn berthnasol yma, a rhaid i'r un peth fod yn wir am yr Alban. Nid yw'r ddadl bod Cymru'n cael ei chynrychioli yn Senedd y DU yn dal dŵr, oherwydd felly hefyd Gogledd Iwerddon, ac mae'n dod yn ôl at y pwynt yr wyf wedi'i wneud lawer, lawer gwaith yn y gorffennol, a hynny yw ni fydd y DU yn dal wrth ei gilydd oni bai y byddwn yn craffu'n briodol ar bethau fel hyn, ac ni fydd yn dal wrth ei gilydd nes inni gael newid cyfansoddiadol. Dyna'r her i bawb yn y Siambr hon, ond, Llywydd, mae'n rhaid imi ddweud bod mynd â'r ddeddfwriaeth hon drwy'r Senedd mewn ychydig ddyddiau yn warth cyfansoddiadol.