10. Dadl: Brexit

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 22 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 6:12, 22 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, ni fyddwch chi na minnau'n cytuno ar y safbwynt hwnnw. Af yn ôl at y cynnig ei hun mewn munud, ond mae'r ddadl ar y Bil, yr ydych chi eisoes wedi cytuno, a chredaf fod pawb yn eu calonnau yn y Siambr hon yn cytuno, na allwch chi wneud y gwaith yr ydych chi i fod i'w wneud mewn tri diwrnod. Mae'n amhosib, yn enwedig ar fater cyfansoddiadol mor bwysig, sydd, fel y dywedodd Rhun, yn effeithio ar ddyfodol ein cenhedlaeth iau. Mae angen inni wneud hynny'n iawn. 

Nawr, pan ddown at y cytundeb ei hun, ie, efallai nad oes gennym ni'r un farn am y cytundeb hwnnw. Ac mae agweddau pwysig. Ble mae'r dadansoddiad o'r effaith economaidd fel y gallwn ni gloriannu sut mae'r cytundeb hwn yn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon a oedd gennym ni yn y cytundebau blaenorol? Rydym ni wedi gwneud llawer o waith yn y Siambr hon, ac mewn gwahanol bwyllgorau, i edrych ar effaith cytundebau blaenorol, boed yn ymadael heb gytundeb, cytundeb Theresa May, neu agweddau eraill, a gwyddom fod pob un yn effeithio arnom ni mewn modd negyddol, nid cadarnhaol. Felly, beth fydd effaith y cytundeb penodol hwn? Nid ydym ni wedi ei weld. Gwyddom fod y cyfnod pontio, mewn gwirionedd, yn 14 mis ar gyfer cytundeb masnach rydd. Nid oes neb wedi dweud wrthyf eto y gallant wneud cytundeb masnach rydd mewn 14 mis. Cawsom Lysgennad y Ffindir yn y pwyllgor ddoe—mae David yn gwybod hyn—a oedd yn amlwg yn pryderu'n ddirfawr am gwblhau cytundeb o'r fath ymhen 14 mis. Ac os ydych chi eisiau estyniad, mae'n rhaid i chi wneud y penderfyniad hwnnw erbyn mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf, nid mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf. Felly, mewn gwirionedd, mae gennych chi wyth mis i benderfynu a oes angen estyniad i'r cyfnod pontio, ac nid yw'r Llywodraeth bresennol yn rhoi'r hyder imi y bydd hyd yn oed yn ceisio'r estyniad hwnnw, felly gallem adael heb gytundeb ym mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf.

Nawr, rydym ni'n siarad am agweddau ar y cytundeb, gyda'r rheolau tarddiad yn dal i gael eu hamau, ac, mewn gwirionedd, mae'r cytundeb hwn yn gwneud y rheolau tarddiad yn fwy anodd. Mae hynny'n peri pryder i fusnesau a'u cludiant a'u hallforio. Rydym yn dal i fod â'r mater o'r penderfyniad i neidio dros ddibyn os nad ydym yn ofalus. Mae hynny'n dal yno. Mae angen inni edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ceisio'i wneud. Nid yw, fel y mae Aelodau ar y fainc hon a gyferbyn yn ei ddweud, yn ceisio cyflawni'r refferendwm; mewn gwirionedd, mae'n ceisio cadw addewidion rhywun a geisiodd am arweinyddiaeth ei blaid. Dyna beth yw hyn. Nid yw'n ymwneud â beth sy'n dda i'r wlad hon—mae'n ymwneud â beth sy'n dda i Boris Johnson. Dyna wir fyrdwn y Bil hwn, a gwir fyrdwn y cytundeb hwn. Dewch—trodd ei gefn ar y DUP cyn gynted ag y gallai, oherwydd gwyddai mai dyna'r ffordd orau iddo gael rhywbeth erbyn 31 Hydref. Felly, pwy arall fydd yn cefnu arnynt, a phryd fydd yn cefnu arnom ni? Ar 31 Rhagfyr 2020, oherwydd dyna a wnaiff—ni allwch chi ymddiried ynddo i ddweud neu wneud unrhyw beth yn wahanol. Felly, mae holl bwyslais y ddadl hon mewn gwirionedd ynghylch: a yw hyn yn gwneud mwy o les, ac a yw'n cyflawni'r hyn a eglurwyd gan Brif Weinidog Cymru a chyn-Brif Weinidog Cymru oedd safbwynt Llywodraeth Cymru, oedd y safbwynt erioed—parchu'r refferendwm, ond diogelu swyddi a'r economi? A yw'r cytundeb hwn yn gwneud hynny? Yr ateb yw 'nac ydy', oherwydd ei fod mewn gwirionedd yn waeth na chytundeb Theresa May, yr oeddem yn gwybod a fyddai'n niweidio ein heconomi. Yna mae'n rhaid i chi gwestiynu: pam y mae'n rhuthro hyn? Am nad yw eisiau ei wneud yn destun craffu, oherwydd, mewn gwirionedd, mae eisiau mynd i mewn i etholiad cyffredinol gydag un neges: 'Fe wnes i gyflawni hyn i chi'. Dyna beth yw diben hyn. Nid yw'n ymwneud â chyflawni ewyllys y bobl—mae'n ymwneud â chyflawni ar ran y blaid Dorïaidd. Mae angen i ni wneud yn siŵr mai'r neges o'r fan yma yw: nid yw hynny'n ddigon da i bobl Cymru. Mae pobl Cymru'n haeddu gwell na hynny, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn cynrychioli fy etholwyr i, eich etholwyr chi, a'r hyn sydd orau iddyn nhw.