Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 22 Hydref 2019.
A gaf i uniaethu â'r sylwadau, yn arbennig am Tomlinsons Dairies, lle cawsom y cwestiwn brys yr wythnos diwethaf? Ac rwy'n gwerthfawrogi bod y Llywodraeth wedi bod mewn cysylltiad ers cryn amser gyda'r llaethdy. Ond mae'n hanfodol ac yn ddyletswydd, byddwn yn awgrymu, ar Sainsbury's i gadw at eu haddewid. Cafodd cynhyrchwyr eu cyfeirio at y llaethdy hwn ganddynt. Nid wyf yn beio Llywodraeth Cymru am hyn. Ond, drwy gyfraniad cynhwysfawr Llywodraeth Cymru, roedd llawer o ffermwyr yn cymryd hynny fel golau gwyrdd, os mynnwch chi, i roi eu cyflenwadau gyda'r llaethdy penodol hwnnw. Ac oherwydd amgylchiadau economaidd, mae nifer ohonynt yn wynebu wythnosau llwm iawn erbyn hyn, gan geisio deall sut y maent yn mynd i lenwi'r llif arian hwnnw. Felly, os yw Llywodraeth Cymru yn teimlo y gall, mewn unrhyw ffordd, ddefnyddio'i chysylltiadau yn Sainsbury's, byddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Rwy'n gwerthfawrogi ei fod yn benderfyniad masnachol, ond byddai unrhyw weithgaredd a chamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cyflwyno yn cael eu croesawu'n fawr—rwy'n eich sicrhau chi o hynny.
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog tai, os gwelwch yn dda, mewn cysylltiad â Chartrefi Celestia, sydd i fyny'r ffordd o'r adeilad hwn? Mae llawer o Aelodau wedi cael eu lobïo a'u hysbysu am y sefyllfa fregus iawn y mae'r holl drigolion yn eu cael eu hunain ynddi yn y bloc penodol hwnnw. Mae dros 400 o dai wedi cael gorchymyn atal tân a gyflwynwyd iddynt, ac yn benodol, mae llawer o'r gwaith yn edrych fel pe bai'n is na'r safon pan gafodd ei adeiladu yn 2006-07. Gwerthfawrogaf, unwaith eto, fod hyn ym maes gweithgarwch masnachol a'i fod yn anghydfod rhwng Redrow ac unigolion eraill sy'n ymwneud ag adeiladu'r bloc penodol hwnnw. Ond byddai'n werth chweil pe bai'r Gweinidog yn rhoi datganiad i'r Aelodau fel y gallwn ddeall a yw Llywodraeth Cymru yn gweld bod ganddi rôl o gwbl i fod yn frocer gonest yn yr anghydfod hwn. Ac yn bwysig, gorfodi rheoliadau adeiladu—. Cyfarfûm â thrigolion ddydd Gwener, ac mae'n amlwg bod rhai o'r lluniau a oedd ganddynt yn y cyfnod adeiladu, a'r diffyg goruchwylio o ran gweithredu gwaith plymio, nad oedd mesurau atal tân wedi'u gosod yn gywir—. Ac mae'n anghredadwy meddwl eu bod wedi cael eu cymeradwyo gan swyddogion rheoliadau adeiladu o'r awdurdod lleol. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn—[Torri ar draws.] Dwi'n gallu clywed digon o bobl yn chwerthin. Rwyf wedi adeiladu tri neu bedwar eiddo fy hun, felly rwy'n deall ychydig am reoliadau adeiladu, ac mae'r rheoliadau adeiladu yn caniatáu i berson diduedd ddod i mewn a llofnodi, ar bob cam, fod yr adeilad yn gweithio'n iawn, fel eu bod yn cyrraedd lefel foddhaol. Fel y dywedais, mae mwy na 400 o drigolion, dim ond tafliad carreg i ffwrdd o'r adeilad hwn, sydd ar ben eu tennyn. A byddwn yn ddiolchgar pe byddai modd i'r Gweinidog gyflwyno datganiad, i ddangos a all y Llywodraeth weithredu fel brocer gonest mewn unrhyw ffordd. Nid wyf yn beio'r Llywodraeth o gwbl, ond mae rôl i'r Llywodraeth gynorthwyo, byddwn yn awgrymu, ynghyd â'r awdurdod lleol —yn yr achos hwn, Cyngor Caerdydd.
A'r ail bwynt yr hoffwn ei wneud, os oes modd, os gwelwch yn dda, yw deall pam y rhoddwyd datganiad ddoe ar ffurf ysgrifenedig ar y benthyciad newydd i Faes Awyr Caerdydd. Dim ond tair wythnos yn ôl, codais y mater gyda chi am i'r Gweinidog gyflwyno datganiad ar ôl y dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynglŷn â chyfraniad parhaus Llywodraeth Cymru. Ac mae cael benthyciad arall wedi'i roi ar y bwrdd, heb archwiliad llafar gan Aelodau yn y Siambr hon, yn wirioneddol amharchus, byddwn i'n awgrymu. Mae hwn yn swm sylweddol o arian, sydd bellach yn fwy na £50 miliwn wedi ei fenthyg i'r maes awyr. A gall y Llywodraeth siarad hyd ddydd y Farn ynglŷn â bod hyn ar delerau masnachol, ac ardrethi; ni ŵyr neb ohonom beth yw'r telerau masnachol hynny oherwydd, bob tro y byddwn yn holi am y meysydd hyn, dywedir wrthym mai cyfrinachedd masnachol yw hyn ac nad oes modd rhyddhau'r wybodaeth honno. Wel, os ydych chi'n teimlo'n ddigon cryf am hyn a'ch bod yn teimlo'n barod i lynu wrtho, dylech allu cymryd cwestiynau yn y Siambr hon. Ac wrth edrych ar yr agenda heddiw, mae mwy na digon o amser ar gael i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad. Felly, byddwn yn ddiolchgar o gael deall pam y cyflwynwyd datganiad ysgrifenedig ac nid datganiad llafar, pan gafodd y swm sylweddol hwn o arian ei roi i'r maes awyr.