Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 22 Hydref 2019.
Gan gymryd agwedd 'Cymru Iachach', dyma'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â gordewdra. Mae'r ystod o gamau traws-lywodraethol yn dangos sut y gall rhaglenni a'r dulliau gweithredu presennol weithio ar y cyd i hyrwyddo a hwyluso newid cadarnhaol. Mae hyn yn cynnwys sut y gellir cyflwyno ymyriadau mewn meysydd fel trafnidiaeth, cynllunio, y blynyddoedd cynnar, addysg, cymunedau a gwasanaethau iechyd at ei gilydd i alluogi pobl i newid eu harferion yn fwy byth.
Pedair thema'r strategaeth yw: amgylcheddau iach, lleoliadau iach, pobl iach, ac arweinyddiaeth a galluogi newid. Mae'r rhain yn dangos y dull system-gyfan y bydd ei angen i fynd i'r afael â gordewdra, gan gydnabod bod yr amgylchedd yn dylanwadu ar ein dewisiadau bob dydd. Dros y cenedlaethau, rydym wedi datblygu'r amgylchedd i fod yn un sy'n canolbwyntio ar gyfleustra yn hytrach nag ar iechyd. Byddwn yn datblygu ac yn cynyddu dulliau o wrthdroi'r anghydbwysedd presennol a roddir ar ddewisiadau o fwyd gwael, ac yn sicrhau y gall ein hamgylchedd gweithredol ni helpu i wneud dewisiadau da o ran gweithgarwch corfforol.
Bydd y ffocws hwn ar yr amgylchedd yn cael ei gyplysu â dulliau o weithredu sy'n ymwneud ag ymddygiad. Bydd hyn yn datblygu ystod o gamau i alluogi cymorth ataliol ac ymyrraeth gynnar i bobl, a fydd yn canolbwyntio ar ddarparu'r wybodaeth, y cyngor neu'r ddarpariaeth gywir ar yr amser priodol. Fe fyddwn ni hefyd yn datblygu llwybr gordewdra clinigol teg a hygyrch ledled Cymru, a fydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau arbenigol i'r rheini sydd angen y cymorth mwyaf arbenigol
Ond ni all y Llywodraeth na'r GIG ddatrys gordewdra ar eu pennau eu hunain. Fe ddylai ein dull ni o weithredu ar sail systemau helpu i ddatblygu arweinyddiaeth ar bob lefel. Mae hyn yn seiliedig ar gydgyfrifoldeb, gan ddefnyddio cryfderau ac asedau cymuned benodol. Caiff hyn ei ategu drwy ddatblygu data deinamig, gwerthuso a chyfathrebu cadarn.
Nawr, rwyf wedi datgan o'r blaen na fyddwn ni'n pennu nodau arwynebol a bod y strategaeth yn canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau. I ategu'r strategaeth, byddwn yn cyhoeddi fframwaith canlyniadau yn y flwyddyn newydd, a fydd yn ein helpu ni i fonitro a chofnodi newid. Rydym wedi dechrau archwilio ffynonellau newydd o ddata i ddatblygu'r gwaith hwn. Fe fydd hyn yn rhoi amrywiaeth o ddangosyddion inni sy'n gysylltiedig â newid ymddygiad.
I gyd-fynd â'r strategaeth, fe fydd yna gyfres o gynlluniau cyflawni bob dwy flynedd, a fydd yn cwmpasu cyfnod y strategaeth. Fe fydd y cynllun cyflawni cyntaf rhwng 2020 a 2022, ac fe fydd hwn yn rhoi manylion y meysydd blaenoriaeth cychwynnol y byddwn ni'n eu datblygu. Fe fyddaf i'n cadeirio bwrdd gweithredu newydd yn ddiweddarach eleni i gytuno ar y blaenoriaethau hyn ac i sefydlu sut i ddefnyddio a manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau, y polisïau a'r rhaglenni presennol i sicrhau dull integredig o weithredu. Dros y ddwy flynedd nesaf, fe fyddwn ni'n dechrau datblygu polisi a deddfwriaeth, ac fe fyddaf i'n sicrhau bod cyllid ar gael i helpu i gyflawni ein nodau ni. Bydd hyn yn ein galluogi ni, ynghyd â phartneriaid, i ganolbwyntio mwy ar atal ac ymyrryd yn gynnar drwy bob system fel rhan o'n dull ni o adeiladu Cymru sy'n iachach. Fe fydd y strategaeth yn helpu i sicrhau y gallwn ysgogi a gwneud yn fawr o gyllid ychwanegol a chyfleoedd i hybu newidiadau ymysg partneriaid, i weld newid yn y ffordd yr ydym ni'n defnyddio'r gwariant i ganolbwyntio mwy ar atal.
Wrth gwrs, fe fydd yn rhaid inni ystyried effaith Brexit. Er fy mod i'n bwriadu cyhoeddi dulliau ariannu i ddylanwadu ar effeithiau cadarnhaol ar iechyd ar draws ein poblogaeth ni, nid oes modd osgoi'r ansicrwydd ynghylch cyllid yn yr hinsawdd sydd ohoni. Os byddwn ni'n ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn enwedig yn achos Brexit 'dim cytundeb', yna fe fydd gennym lawer o ddewisiadau anodd ac annymunol i'w gwneud. Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y bydd prinder bwyd yn gyffredinol. Serch hynny, mae Brexit 'dim cytundeb' yn debygol o arwain at leihad yn y dewis o fwyd a'r bwyd fydd ar gael, yn enwedig y ffrwythau a'r llysiau ffres yr ydym yn eu mewnforio'n rheolaidd o'r Undeb Ewropeaidd. O ganlyniad, mae'n debygol y bydd costau'r bwydydd hyn yn codi, ac fe fydd hynny'n effeithio'n anghymesur ar deuluoedd incwm isel. Fe fydd angen inni ystyried ac adlewyrchu'r effaith y byddai Brexit yn ei chael ar gyflawni'r strategaeth hon.
Rwy'n parhau i groesawu cefnogaeth a herio trawsbleidiol i sicrhau y gallwn ni gyflawni'r uchelgeisiau a'r nodau blaengar a rannwn. Rwy'n croesawu cefnogaeth ac ymgysylltiad parhaus â phleidiau eraill ac â'r cyhoedd i sicrhau y gallwn gyflwyno dull o weithredu a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i iechyd ein poblogaeth ni.