Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 22 Hydref 2019.
Rydych chi'n gwneud rhai pwyntiau da iawn yn hyn o beth, ond fe hoffwn i wneud un neu ddau fy hun. Y cyntaf yw nad ydych chi mewn gwirionedd, ar unrhyw adeg yn y ddogfen hon, yn mynd ar drywydd y ffaith fod gan bobl gyfrifoldeb personol. Ac os caf i ddweud hyn fel un sydd wedi cael mwy na'i siâr o salwch dros y blynyddoedd diwethaf, ac nid wyf innau'n fain o gorff, ysywaeth, ond rwy'n gwbl ymwybodol fod yn rhaid imi gymryd y cyfrifoldeb am hynny fy hunan er mwyn bod yn wirioneddol iach. Mae pawb yn gwybod hynny. Nid ydym yn ysmygu, mae angen gwneud mwy o ymarfer corff, ac mae angen rheoli'r hyn yr ydym yn ei fwyta. Ac yn eich datganiad, ychydig iawn o gyfeirio a geir at hynny; mae'n ymwneud â'r hyn y gallwch chi ei wneud, y gall cymunedau ei wneud, ac y call meddygon teulu ei wneud. Ond yn fy marn i, yn rhywle fan hyn mae angen ychydig o alw ar y cyhoedd i weithredu, ein bod ninnau hefyd yn ceisio gwneud ein rhan i reoli ein pwysau a deall pa effaith y mae peidio â rheoli'r hyn yr ydym ni'n ei fwyta yn ei chael ar ganlyniadau iechyd hirdymor. Agenda gonestrwydd yw hon, ac mae arnom ofn mawr iawn weithiau, yn fy marn i, i siarad gyda phobl yn ddi-flewyn ar dafod.
Rydych chi'n sôn llawer am atal, ac rwy'n credu bod llawer iawn o waith da iawn yn digwydd o ran atal, ac yn enwedig mewn ysgolion drwy'r mentrau bwyta'n iach. Ond wrth gwrs, nid yw bod o bwysau iach yn ymwneud yn unig â'r hyn y byddwch chi'n ei roi yn eich ceg; mae'n ymwneud â'r ymarfer corff a wnewch chi a'ch agwedd chi tuag at y ffordd yr ydych chi'n mynd o gwmpas byw eich bywyd. Tybed a wnewch chi egluro inni pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch cynyddu'r amser a gaiff plant yn ystod eu diwrnod ysgol i gymryd rhan mewn chwaraeon, oherwydd dros y degawd diwethaf, mae'r amser y mae plant yn ei gael ar yr iard yn chwarae—ac rwyf i wedi gwneud y ceisiadau rhyddid gwybodaeth, rwyf i wedi cael yr holl atebion yn ôl—wedi bod yn gostwng yn araf. Efallai fod newid sylweddol wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf, oherwydd nid wyf wedi edrych ar wybodaeth y flwyddyn ddiwethaf, ond mae angen mwy o amser na dim ond pum munud y dydd neu bum munud yr wythnos yn ychwanegol. Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi, yn enwedig o ran yr oedran cynradd, ynghylch sicrhau bod plant yn cael y cyfle i ennyn yr awydd hwnnw i fynd allan a bod yn fwy heini a mwynhau'r cyfan? Nid ydyn nhw'n ystyried hynny fel ymarfer corff, ond chwarae y maen nhw, cael sbort y maen nhw. Mae addysg yn gwbl allweddol.
Rwy'n credu bod y sylwadau ar amgylchedd bwyd yn bwysig dros ben. Rwy'n credu bod yna ddadl wirioneddol dros ehangu'r parth gwahardd hysbysebion o amgylch ysgolion a chydweithio yn agos â Chwaraeon Cymru.
Yr enw sydd ar eich datganiad yn ei gyfanrwydd yw 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Rwy'n deall mai arwain ar agenda gordewdra y mae hyn, ond ni allaf i sefyll yn y fan hon heb grybwyll y ffaith, yn enwedig i bobl ifanc yn eu harddegau, fod bod dan bwysau yn broblem enfawr hefyd. Felly, fe hoffwn i ofyn ichi pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd yn y Llywodraeth i sicrhau, wrth hyrwyddo'r agenda hon, mai'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud mewn gwirionedd yw, 'Gadewch inni gael y pwysau'n iawn.' Oherwydd mae gennym ni, yn enwedig ein merched ifanc, lawer iawn ohonyn nhw nad ydyn nhw'n bwyta'n iawn gan eu bod yn arswydo rhag bod yn rhy dew neu'n teimlo y dylen nhw fod yn dilyn rhyw batrwm sydd wedi cael ei wthio gan rywun enwog. Ac ar Instagram, ni allaf i gytuno mwy â chi, Gweinidog Addysg; rwyf i o'r farn mai Instagram yw un o ddrygau mawr y byd.
O ran yr amgylchedd egnïol, rwy'n falch tu hwnt o weld bod y Gweinidog tai yma hefyd oherwydd, mewn gwirionedd, unwaith eto, yn y cynllunio, hoffwn i ofyn ichi restru pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael ynglŷn â'r ffordd y gallwn ni ddefnyddio'r system gynllunio i gynyddu ein gweithgareddau hamdden a chwaraeon a'n gallu i chwarae yn y datblygiadau tai newydd. Oherwydd, unwaith eto, rydym wedi bod drwy hyn yn y gorffennol lle mae datblygwyr wedi dweud, 'O, wel, mae gennym ni hyn a hyn o fetrau o ofod gwyrdd', ond mewn gwirionedd y cyfan sydd yno yw'r clytiau o laswellt wrth ymyl palmentydd. Nid yw'n gyfleuster chwaraeon lle gall plant chwarae. A'r peth arall o ran y datblygwyr, maen nhw'n gwrthod cydnabod y ffaith bod rhieni mewn gwirionedd yn hoffi cael lle chwarae sydd o fewn eu golwg, fel eu bod nhw'n gwybod bod eu plant yn ddiogel. Felly, maen nhw'n rhoi'r cae chwarae ym mhen arall y pentref, ymhell oddi wrth y tai. Rydym ni eisiau eu gweld nhw yng nghanol y tai. Mae'n beth hen ffasiwn iawn, ond gallwch edrych allan trwy'r ffenestr, a gallwch weld eich plentyn y tu allan yn cael hwyl ac yn cael cyfle i chwarae. Mae'r pethau bychain hyn yn helpu i gyfrannu at fywyd iachach.
Ond fe hoffwn i sôn yn gyflym iawn am rai rhaglenni da iawn sydd wedi bod ar waith. Mae yna un rhaglen ragorol—ac rwy'n mynd i ddweud hyn yn anghywir; nac ydw, mae'n iawn, rwyf wedi ei ysgrifennu tua thair gwaith—Dyn yn Erbyn Braster. Rhaglen ar gyfer dynion sy'n ganol oed, ychydig yn rhy drwm, ac maen nhw'n mynd allan ac maen nhw'n chwarae pêl-droed. Mae yna raglen fawr, mae'n digwydd yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac mae pobl ddi-ri yn colli pwysau. Dyna'r math o beth y mae eisiau inni fod yn annog pobl i'w wneud. I fenywod canol oed fel fi, nid wyf i'n awyddus i fynd i gampfa a chystadlu â geneth ifanc fain yn ei Lycra. Dim diolch. Byddai'n well gen i weld rhaglenni'n cael eu cyflwyno i ddenu oedolion allan yno—a byddan nhw'n magu ffitrwydd, bydd y plant yn magu ffitrwydd, mae'n ymwneud â thargedu.
Mae yna raglen benigamp ar waith yn Llundain. Fe'i gelwir yn 'Mind, Exercise, Nutrition...Do it!', MEND. Rhaglen yw hon sydd wedi ei hanelu'n benodol at blant 7 i 13 oed sy'n ordew iawn, ac unwaith eto, mae hon wedi bod yn llwyddianus iawn. Gweinidog, a wnewch chi ddweud wrthym ni beth ydych chi wedi ei wneud i edrych ar fentrau eraill sydd wedi cael eu profi eisoes? Fe welais i yn eich rhaglen, a ddarllenais heddiw, eich bod chi, unwaith eto, yn sôn am ddod o hyd i'r arfer gorau a gwneud i hynny ddigwydd drwy Gymru gyfan. Pe gallech chi roi ychydig o'r wybodaeth honno inni, byddai'n ddefnyddiol iawn.
A chyn imi gael fy nghicio oddi ar y llawr, a gaf i ychwanegu ychydig am y cyllid? Mae hyn yn mynd â ni yn ôl i'r pwynt a wnes i am Brexit. Yn wir, mae hwn yn fater difrifol ynglŷn â gwneud pob un ohonom ni'n fwy main, yn fwy heini ac yn fwy iach. Byddai'r arbediad i'r GIG yn yr hirdymor yn aruthrol ac, yn bwysicach, yr arbediad i'r unigolyn. Ac mae hyn o fewn eich gallu chi; rydych chi'n cael dros £16 biliwn y flwyddyn fel Llywodraeth. Nid ydym yn sôn am arian mawr, ond fe allech chi wario ychydig o hynny ar helpu awdurdodau lleol i gadw eu cyfleusterau ymarfer corff ar agor, eu pyllau nofio ar agor, i gynnal eu lawntiau bowlio, a chadw eu holl fannau gwyrdd a chaniatáu iddyn nhw gael cyfarpar chwarae y gellir ei gynnal a'i gadw fel y bydd gan bobl amgylchedd ardderchog i fynd allan iddo a cheisio cadw'n heini.