Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 22 Hydref 2019.
Rwy'n diolch i'r Aelod am y sylwadau. Mae'n deg imi dynnu sylw at ail-fformiwleiddio halen a bod amrywiaeth o fusnesau bwyd wedi lleihau'r gyfradd o halen ac na chafodd hynny unrhyw effaith ar y blas wrth fwyta'r bwyd hwnnw yn ôl y cwsmeriaid. Yr her yw gwybod a yw dull gwirfoddol yn ddigonol. Ac, fel y nodais, rwyf i o'r farn y dylem roi prawf ar derfynau'r hyn sydd ar gael i wneud mwy o wahaniaeth eto. Mae hynny'n rhan o'r hyn a nodais, ac mae'n mynd i'r ysgolion a'r bwyd a sut mae plant yn deall y ffordd y cynhyrchir eu bwyd. Ac ym mhob ysgol gynradd bron yr ymwelais â nhw, gan gynnwys rhai yn y mannau llai ariannog sydd yn fy etholaeth i, rwy'n gweld dull cyson iawn o annog plant i dyfu bwyd a deall ble a sut y caiff hwnnw ei gynhyrchu ar lefel leol.
Rwyf i am ymdrin â'ch pwyntiau chi ynglŷn â thargedau, ac yna sut rydym yn defnyddio canlyniadau a rhai o'r cynigion sydd gennym ni. Fe gawsom ni sgwrs ynghylch a ddylid cael targedau yn y strategaeth hon, ac fe benderfynais i beidio â chael targedau. Edrychais ar yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban ac yn Lloegr, lle mae ganddyn nhw dargedau i leihau gordewdra ymhlith plant, i haneru hynny erbyn 2030, ac nid wyf i'n credu bod unrhyw dystiolaeth bod hwnnw'n darged y gellir ei gyflawni mewn unrhyw ffordd. Oherwydd rhan o'r her i ni yw nad ydym yn deall eto faint o effaith a gaiff y mesurau yr ydym ni'n mynd i'w cyflwyno, ac nid wyf yn arbennig o awyddus i gael targed ar sail rhyw ddyhead bras. Nid wyf i o'r farn fod hynny'n ddoeth nac yn synhwyrol i neb. Fe fydd y fframwaith canlyniadau yr ydym yn mynd i geisio ei gynhyrchu yn caniatáu i bobl fesur yr effaith ar boblogaeth Cymru. Felly, os nad oes unrhyw newid, yna fe fydd y mesurau canlyniad yn cofnodi hynny. Os bydd yna newid gwirioneddol, fe fyddwn ni'n gweld hwnnw ac yna bydd angen inni geisio deall pa rai o'n hymyriadau ni sy'n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol. Nid oes modd inni wybod bob amser pa ymyriad a gyflwynir gennym sy'n effeithio ar fywydau pobl a beth yw'r gydberthynas uniongyrchol o ran pa mor iach yw pwysau pobl ein gwlad.
O ran rhai o'r cynigion, efallai y byddai'n ddefnyddiol nodi ein bod yn edrych ar wahardd gwerthu diodydd egni i blant; cyfyngu ar hyrwyddo a marchnata bwyd a diod afiach yn yr amgylchedd manwerthu; gwahardd gwerthu diodydd llawn siwgwr y gellir eu hail-lenwi mewn lleoliadau y tu allan i'r cartref—ac rydym yn gweld y rhain yn rheolaidd, yr ail-lenwadau diddiwedd; cyfyngu ar faint diodydd ysgafn llawn siwgwr; a labelu calorïau yn orfodol mewn lleoliadau y tu allan i'r cartref; ac ystyried opsiynau i gyfyngu ar hyrwyddo bwyd a diod afiach yng ngŵydd plant ysgol. Felly, rydym yn ystyried ystod o fesurau penodol a byddaf yn cyflwyno cynigion mwy pendant yn y dyfodol.